Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1.2 Delweddau

Fel iaith, mae delweddau’n dylanwadu ar y ffordd rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymateb i’r hyn rydym yn ei weld. Gall delweddau sy’n portreadu pobl hŷn fel pobl fregus, agored i niwed, sâl neu ddioddefwyr hefyd arwain at ymddygiad stereoteipio ac anwybyddu amrywiaeth pobl hŷn.

Enghraifft bob dydd o hyn yw arwydd traffig y DU yn rhybuddio y gallai cerddwyr hŷn fod yn croesi’r ffordd. Cafodd ei ddylunio ym 1981 o ganlyniad i gystadleuaeth i blant. Defnyddir yr un arwydd ar gyfer cerddwyr anabl hefyd. Mae llawer o bobl hŷn yn teimlo bod yr arwydd hwn yn enghraifft o oedraniaeth.

Yn 2020, cynhaliodd y Ganolfan Heneiddio’n Well gystadleuaeth yn gwahodd dylunwyr i ‘ailfeddwl am y symbolau a’r eiconau sy’n cael eu defnyddio’n aml yn gyhoeddus i gynrychioli grwpiau oedran hŷn.’ Roedd y dyluniad ‘cwpwl yn dawnsio’ buddugol yn seiliedig ar arwydd traffig y DU.

Llun yn dangos arwydd traffig y DU ar gyfer cerddwyr hŷn ac anabl yn croesi ochr yn ochr ag enillydd cystadleuaeth ddylunio’r Ganolfan Heneiddio’n Well. Mae’r dyluniad buddugol yn ddelwedd barodi o arwydd traffig y DU, sy’n dangos dau berson yn dawnsio ac yn torri allan o ffrâm y triongl coch.
Ffigur 3: Arwydd traffig y DU ar gyfer cerddwyr hŷn ac anabl (chwith uchaf) a dyluniad y gystadleuaeth sydd wedi ennill gwobr ‘cwpl yn dawnsio’ (gwaelod ochr dde).

Dywedodd y beirniaid fod y dyluniad buddugol wedi llwyddo i gyfleu amrywiaeth pobl hŷn, gan bortreadu cwpwl egnïol a chymdeithasol yn torri allan o’r arwydd ffordd triongl (Canolfan Heneiddio’n Well, 2020).

Gweithgaredd 3

Timing: 5 munud

Edrychwch ar y pedair delwedd isod. Yn eich barn chi, pa ddelweddau sy’n cael dylanwad negyddol ar y ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am bobl hŷn? Pa rai allai gael dylanwad mwy cadarnhaol? Pam?

Cliw: Meddyliwch am y delweddau yr hoffech eu gweld ohonoch chi’ch hun, neu o’ch teulu a’ch ffrindiau.

Grid 4x4 o bedair delwedd sy’n dangos person hŷn. Mae’r delweddau wedi’u labelu o A i D. Mae delwedd A yn ddarlun cartŵn o fenyw hŷn gyda gwallt gwyn yn pwyso ar ffon gerdded. Mae golwg boenus arni, ac mae hi’n gwisgo ffrog borffor hen ffasiwn. Mae delwedd B yn dangos dyn hŷn yn gwenu wrth edrych ar ffôn clyfar yn ei ddwylo. Mae’n gwisgo crys chwys modern gyda logo arno. Mae delwedd C yn dangos dwylo a breichiau menyw hŷn wedi’u croesi ar ei glin. Mae hi’n gwisgo sgert frethyn a chardigan werdd hen ffasiwn. Mae delwedd D yn llun wedi’i gynllunio o fenyw hŷn yn edrych ar y camera ac yn chwerthin. Mae hi’n gwisgo sgarff liwgar, siaced wyrddlas fodern ac mae hi wedi lliwio ei gwallt yn borffor mewn steil byr modern.
Ffigur 4: Delweddau o bobl hŷn

Gadael sylw

Delwedd A – cartŵn yn dangos menyw hŷn gyda ffon gerdded (delwedd sy’n cael ei dangos yn aml iawn) ond hefyd ag ystum gwan a dillad hen ffasiwn sy’n gwneud iddi ymddangos fel plentyn. Mae’r ddelwedd hon yn canolbwyntio ar wneud i’r fenyw hŷn edrych yn fregus gyda mynegiant trist neu boenus ar ei hwyneb.

Delwedd B – mae’n ymddangos yn naturiol, gyda’r person hŷn yn gwenu ac yn edrych yn brysur. Mae’r ddelwedd hefyd yn herio’r stereoteip nad yw pobl hŷn yn defnyddio technoleg fodern.

Delwedd C – llun agos o bâr o ddwylo person hŷn. Mae delweddau fel hyn yn cael eu defnyddio’n aml mewn erthyglau newyddion am bobl hŷn. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gweld yr unigolyn, sy’n rhywbeth sy’n dad-ddyneiddio pobl hŷn ac sy’n gallu arwain at drin pobl hŷn fel grŵp unffurf.

Delwedd D – dyma lun wedi’i gynllunio, ond mae’n herio’r portreadau nodweddiadol o’r hyn y mae pobl hŷn yn ei wisgo. Mae’r unigolyn yn y llun hefyd yn edrych yn hapus, yn hyderus ac yn egnïol, gan wneud i chi feddwl y tu hwnt i dybiaethau nodweddiadol unwaith eto.

Os yw eich gwaith yn cynnwys defnyddio delweddau, mae’r Ganolfan Heneiddio’n Well wedi creu llyfrgell o ddelweddau am ddim i helpu i ddangos portreadau mwy realistig ac amrywiol o heneiddio.

Porwch drwy’r 'Age-positive image library', llyfrgell o ddelweddau sy’n dangos heneiddio mewn ffordd gadarnhaol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae Age Cymru hefyd wedi creu llyfrgell o ddelweddau stoc am ddim sy’n cynnwys delweddau sy’n cynrychioli profiadau ac amrywiaeth pobl hŷn yng Nghymru.

Edrychwch ar y llyfrgell o ddelweddau stoc ‘Beth Yw Bod Yn Hŷn’.

Bydd y ddwy ddolen hefyd ar gael yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y cwrs.