Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Gwahaniaethu ar sail oedran a chyfraith y DU

Bydd yr adran hon yn edrych ar sut mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cael ei drin dan gyfraith y DU. Byddwch yn cael eich cyflwyno i agweddau perthnasol ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r rheoliadau ar gyfer cyrff cyhoeddus a elwir yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Byddwch hefyd yn dysgu am y dyletswyddau penodol sy’n berthnasol yng Nghymru ac am rôl Comisiynydd Pobl Hŷn – swyddfa sy’n unigryw i Gymru ac i Ogledd Iwerddon.

Er mwyn rhoi cyd-destun, mae’n werth nodi rhywfaint o ddata demograffig fel oedran canolrifol poblogaeth y DU a sut mae wedi cynyddu ers 1975.

Beth yw ystyr ‘oedran canolrifol’?

Dychmygwch fod pobl o bob oed mewn gwlad yn cael eu rhoi mewn trefn rifol, e.e. o 0 i 100. Yr oedran sy’n disgyn union yng nghanol y rhestr hon yw’r oedran canolrifol. Os yw’r oedran canolrifol yn codi, mae’n golygu bod mwy o bobl yn byw’n hirach.

Graff llinell o ‘Oedran canolrifol y boblogaeth – Y Deyrnas Unedig’. Mae echelin x yn dangos blynyddoedd rhwng 1955 a 2025 mewn cyfnodau o 10 mlynedd. Mae echelin y yn dangos oedran canolrifol o 30.0 i 42.0. Pwyntiau data: 1955 – 34.1, 1965 – 34.1, 1975 – 32.9, 1985 – 34.3, 1995 – 35.6, 2005 – 37.5, 2015 – 38.8, 2025 – 40.1. Mae’r duedd yn dangos gostyngiad bach yn 1975, ac yna cynnydd cyson i 40.1 erbyn 2025. Ffynhonnell: Cenhedloedd Unedig, 'Revision of World Population Prospects' (2024).
Ffigur 7: Oedran canolrifol ers 1955 yn y DU (Y Cenhedloedd Unedig, 2024)

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru a’r Alban sydd â’r oedrannau canolrifol uchaf yn y DU. Mae 898,383 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru, a rhagwelir y bydd y nifer yn hwn yn codi i 993,000 erbyn 2030 (SYG, 2024).

Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn cyfoethogi pob haen mewn cymdeithas ac yn creu cyfleoedd i ailfeddwl ynghylch y ffordd rydym yn cynllunio ein cymunedau, ein gwasanaethau a’n systemau. Mae yma oblygiadau pwysig i benderfyniadau polisi ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yr economi, tai, seilwaith a mwy. Mae’r dystiolaeth yn eglur: rhaid cydnabod pobl hŷn yn gyfranogwyr llawn a chyfartal mewn cymdeithas, sy’n gallu byw bywydau iach, cysylltiedig ac annibynnol am gymaint o amser â phosib.

I gael golwg fanylach ar y darlun cyffredinol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, gallwch ddarllen Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (PDF, 5.1 MB) gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Bydd y ddolen hon hefyd ar gael yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y cwrs.