Mae cynorthwywyr addysgu yn adnodd pwysig ym myd addysg. Mae'r uned hon yn edrych ar sut mae'r rôl wedi datblygu ledled y DU dros amser. Mae'n ystyried y sgiliau a'r nodweddion y mae cynorthwywyr addysgu yn eu defnyddio er mwyn rhoi cymorth effeithiol a chyfrannu at waith tîm cynhyrchiol.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
Erbyn diwedd yr uned hon, dylech allu gwneud y canlynol:
trafod sut y daeth gweithlu cynorthwywyr addysgu'r DU i fodolaeth
datblygu eich dealltwriaeth bod cynorthwywyr addysgu yn rhan o weithlu ehangach o gynorthwywyr yng ngwasanaethau cyhoeddus iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol
deall rolau amrywiol a chyfraniadau unigryw cynorthwywyr addysgu ledled y DU
nodi rhai o'r sgiliau y mae cynorthwywyr addysgu yn eu defnyddio i roi cymorth effeithiol a chyfrannu at waith tîm cynhyrchiol
myfyrio ar werth gwaith cynorthwywyr addysgu a'r sgiliau cymorth cysylltiedig, a meddwl am eich rôl yn y dyfodol.