Mae oedraniaeth yn cyfeirio at y ffordd y byddwn yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn tuag at bobl ar sail eu hoed. Mae’n gysyniad amhendant sy’n gallu cael ei gyfeirio at unrhyw grŵp oedran. Mae oedraniaeth i’w gael yn ein sefydliadau, yn ein perthnasoedd â phobl eraill a hyd yn oed yn y ffordd y gwelwn ein hunain. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar oedraniaeth tuag at bobl hŷn, gan ystyried y stereoteipiau, y rhagfarnau a’r camwahaniaethu sy’n eu hwynebu, a’r effaith y gall y rhain ei chael.
Mae oedraniaeth mor gyffredin fel nad oes neb yn sylwi ar y peth yn aml. Bwriad y cwrs hwn ydy eich helpu chi i adnabod oedraniaeth a deall sut i ymateb. Byddwch chi’n dysgu am agweddau allweddol ar gyfraith y Deyrnas Unedig sy’n gwarchod pobl rhag oedraniaeth, dyletswyddau cyfreithiol y sector cyhoeddus yng Nghymru, a’r camau ymarferol y gallwch eu cymryd fel unigolyn i herio oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae modd ei gyrchu yn rhad ac am ddim ac mae’n werthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed.
Cafodd y cwrs hwn ei ddatblygu ar y cyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae fersiwn drwy gyfrwng y Saesneg ar gael hefyd. / An English version is also available.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored!
Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant.
Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
deall beth yw oedraniaeth, yr effaith mae'n ei chael ar bobl hŷn a pham ei bod yn bwysig
bod yn ymwybodol o'r gyfraith yn y DU ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran (Deddf Cydraddoldeb 2010) gyda gwerthfawrogiad o ofynion a rheoliadau penodol yng Nghymru
adnabod, herio a gweithredu'n hyderus yn erbyn oedraniaeth.