Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Cyflwyniad

Gall oedraniaeth newid y ffordd rydym yn gweld ein hunain a phobl eraill ac achosi i anoddefgarwch barhau rhwng cenedlaethau, gan ddibrisio’r hyn y gall pobl iau a phobl hŷn ei gyfrannu. Gall hefyd gael effaith negyddol ar ein hiechyd, ein hirhoedledd a’n llesiant yn ogystal â chael canlyniadau economaidd pellgyrhaeddol.

Yn y cwrs hwn, byddwch yn dysgu beth yw oedraniaeth a pham mae’n bwysig, yn ogystal â beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am oedraniaeth a beth allwch chi ei wneud i ganfod ac i herio oedraniaeth ar draws gwahanol rannau o gymdeithas.

Er bod oedraniaeth yn effeithio ar bawb, bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar oedraniaeth y mae pobl hŷn yn ei brofi. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi adrodd bod hanner poblogaeth y byd yn gwahaniaethu ar sail oedran yn erbyn pobl hŷn (2021).

Cafodd y cwrs hwn ei ddatblygu ar y cyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru; byddwch yn dod o hyd i ddolenni defnyddiol at adnoddau’r Comisiynydd drwy gydol y cwrs. Yn y fideo isod, mae Rhian Bowen-Davies, sef Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r cwrs hwn.

Download this video clip.Video player: Fideo 1
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Cyflwyniad gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae cofrestru ar y cwrs a’i gwblhau’n llwyddiannus yn golygu y byddwch yn ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Nid yw bathodynnau wedi’u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maent yn ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a/neu eich ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Hefyd, pan fyddwch yn cwblhau’r cwrs gallwch lawrlwytho eich datganiad cyfranogiad OpenLearn.