Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1.1 Yn y cyfryngau

Mae gan y cyfryngau lawer o bŵer i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn meddwl am oedran. Felly, mae’n bwysig bod y ffordd y caiff pobl hŷn eu cynrychioli yn deg ac yn gywir.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio delweddau ac iaith sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o brofiadau, diddordebau a dyheadau pobl hŷn.

Ffigur 10: Oedraniaeth yng nghyfryngau’r DU
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Wrth weld, darllen neu wrando ar adroddiadau neu hysbysebion yn y cyfryngau (gan gynnwys print, teledu, radio, rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol), gall y cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol wrth benderfynu a oes oedraniaeth yn bresennol:

  • A yw adrodd am oedran unigolyn yn ychwanegu unrhyw beth at y stori?
  • A yw’r ddelwedd neu’r stori yma’n ategu neu’n herio stereoteipiau negyddol?
  • A yw’r cyhoeddiad hwn neu’r sianel hon yn adrodd straeon negyddol yn rheolaidd am bobl hŷn neu am heneiddio?
  • A yw’r cyhoeddiad hwn neu’r sianel hon wedi adrodd straeon cadarnhaol am bobl hŷn neu am heneiddio?
  • Lle ceir straeon cadarnhaol, a ydynt yn nawddoglyd eu natur?

Os ydych chi’n teimlo bod oedraniaeth yn bresennol, gallwch ei herio’n anffurfiol drwy gysylltu â’r golygydd (papurau newydd neu gylchgronau), y darlledwr (radio neu deledu) neu’r unigolyn sy’n rhannu’r stori (cyfryngau cymdeithasol) i dynnu sylw at oedraniaeth ac i ofyn am gynnwys mwy cytbwys sy’n adlewyrchu’n fwy cywir y cyfraniad a’r gwerth y mae pobl hŷn yn ei gyfrannu at gymdeithas.

Os nad yw hyn yn arwain at ymateb boddhaol, yna cysylltwch â’r corff rheoleiddio perthnasol i uwchgyfeirio’r gŵyn (Ofcom [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar gyfer y rhan fwyaf o sylw yn y cyfryngau neu’r Awdurdod Safonau Hysbysebu ar gyfer hysbysebion).