3 Gweithredu yn erbyn oedraniaeth
Er mwyn mynd i’r afael ag oedraniaeth, rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono. Gwyliwch y fideo isod gan y Ganolfan Heneiddio’n Well i gael trosolwg o sut mae oedraniaeth yn ffactor mewn sawl agwedd wahanol ar ein bywydau a’n cymdeithas.
Dylech geisio gwneud y canlynol o leiaf:
- Bod yn effro i oedraniaeth, yn ei holl ffurfiau: stereoteipiau, rhagfarnau a gwahaniaethu.
- Chwarae eich rhan i sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
- Bod yn ymwybodol o’r iaith, y derminoleg ac unrhyw ddelweddau rydych chi’n eu defnyddio bob amser.
- Myfyrio ar eich ymddygiad a’ch gweithredoedd – a allent fod yn gwahaniaethu ar sail oedran?
- Herio oedraniaeth - yn anffurfiol neu’n ffurfiol.
Yn eu hadroddiad byd-eang ar oedraniaeth, amlinellodd Sefydliad Iechyd y Byd dair strategaeth effeithiol ar gyfer mynd i’r afael ag oedraniaeth, y dylech eu hystyried wrth gynllunio eich camau gweithredu:
- Polisi a’r gyfraith – (fel Deddf Cydraddoldeb 2010) pa newidiadau y mae angen i ni eu gweld mewn polisi – yn lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol. A oes angen gwneud newidiadau i gryfhau’r gyfraith ar gydraddoldeb?
- Gweithgareddau addysgol (ffurfiol ac anffurfiol) – cyrsiau hyfforddi, gweithgareddau addysgol parhaus, dull dysgu gydol oes.
- Gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau – dod â gwahanol genedlaethau at ei gilydd i rannu syniadau, gweithio ar brosiectau a chwalu rhwystrau, y profwyd eu bod yn effeithiol o ran lleihau oedraniaeth sydd wedi’i hanelu at bobl hŷn.
Gweithgaredd 6
Ystyriwch sut gallech chi helpu i fynd i’r afael ag oedraniaeth yn eich bywyd a’ch gwaith o ddydd i ddydd i helpu i fynd i’r afael ag oedraniaeth.
Allwch chi feddwl am dri cham gweithredu pendant y gallwch chi eu cymryd ar sail yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu hyd yma?
Sylwad
Yn eich bywyd o ddydd i ddydd, cymerwch amser i fyfyrio ar eich meddyliau, eich agweddau a’ch barn eich hun yn ogystal â rhai pobl eraill yn eich cylch cymdeithasol. Gallai tri cham gweithredu pendant gynnwys:
- Chwilio am gyfleoedd i ryngweithio mwy â phobl o wahanol genedlaethau yn eich teulu, eich gweithle a’ch cymuned.
- Ymgysylltu â’ch awdurdod lleol, cynrychiolwyr etholedig, deisebau neu weithgarwch democrataidd arall i helpu i wneud newid cadarnhaol.
- Rhoi sylwadau ar gynnwys cyfryngau cymdeithasol sefydliadau neu frandiau er mwyn rhannu gwybodaeth neu adnoddau – mae hefyd yr un mor bwysig cydnabod neu dynnu sylw at gynnwys sy’n gadarnhaol o ran oedran.
Yn y gwaith, ystyriwch yr hyn y gall eich sefydliad neu eich tîm ei wneud i fynd i’r afael ag oedraniaeth drwy ddylunio gwasanaethau, recriwtio a hyfforddi, darparu gwybodaeth ac wrth wneud penderfyniadau. Gallai tri cham gweithredu pendant gynnwys:
- Hyrwyddo neu annog hyfforddiant neu rannu gwybodaeth.
- Bwrw golwg dros iaith neu ddelweddau sy’n cael eu defnyddio mewn dogfennau, ar wefannau neu mewn deunyddiau eraill i sicrhau eu bod yn rhydd o stereoteipiau a allai fod yn niweidiol.
- Herio unrhyw sylwadau neu jôcs a wneir gan gydweithwyr.
Peidiwch â phoeni os gwnaethoch chi ei chael hi’n anodd meddwl am gamau gweithredu pendant! Er eich bod chi o bosibl yn deall beth yw oedraniaeth a’r cyfreithiau sy’n berthnasol wrth ei herio, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud a beth yw’r ffordd orau o wneud hynny. Bydd yr adran hon yn edrych yn fanwl ar sut gallwch herio oedraniaeth mewn gwahanol rannau o fywyd a chymdeithas, yn ogystal â sefydliadau sy’n gallu eich cefnogi.