1.1 Stereoteipio a rhagfarn
Gweithgaredd 1
Gwyliwch y fideo byr canlynol am oedraniaeth a phobl hŷn.
Beth yw eich syniadau cychwynnol ar ôl gwylio’r fideo hwn?
Gadael sylw
Gobeithio bod y fideo byr hwnnw wedi procio’r meddwl a’i fod wedi eich helpu i feddwl pa mor gyffredin yw syniadau am bobl hŷn a pha mor hawdd yw gwneud rhagdybiaethau.
Gadewch i ni edrych ar stereoteipiau a rhagfarn – sut rydym yn meddwl a sut rydym yn teimlo.
Stereoteipiau (sut rydym yn meddwl)
Credoau neu syniadau cyffredinol a gorsymleiddiedig am grŵp o bobl yw stereoteipiau.
Maen nhw’n dad-ddyneiddio unigolion drwy grwpio pobl gyda’i gilydd o dan label: label sy’n aml yn perthyn dim/yn anadnabyddadwy i’r unigolion sy’n cael eu labelu.
Nid ydynt yn ystyried gwahaniaethau, safbwyntiau, dewisiadau, dyheadau nac anghenion unigol.
Gallant ddylanwadu ar sut rydym yn cyfathrebu (yr iaith, y derminoleg a’r delweddau rydym yn eu defnyddio). Un enghraifft gyffredin yw bod pob person hŷn yn fregus ac yn agored i niwed. Dyma ddarlun cyffredin a welir yn y cyfryngau, er enghraifft delwedd neu fideo o berson hŷn gyda dwylo wedi crychu yn pwyso ar ffon gerdded.
Gall stereoteipiau fod yn niweidiol pan:
- mae’r stereoteip mor gryf fel ei fod yn diystyru tystiolaeth nad yw unigolyn sy’n perthyn i’r grŵp yn cydymffurfio ag ef
- maen nhw’n dechrau llywio’r ffordd rydym yn teimlo ac yn dylanwadu ar y ffordd rydym yn ymddwyn.
Rhagfarn (sut rydym yn teimlo)
Gellir diffinio rhagfarn fel agweddau, teimladau neu farn am aelodau grwpiau eraill. Gallant fod yn gadarnhaol neu’n negyddol, ond negyddol ydynt yn aml.
Mae enghreifftiau o ragfarn negyddol yn cynnwys:
- mae pob person hŷn yn ‘hen ffasiwn’
- mae pob person hyn yn mwynhau sicrwydd ariannol ar draul pobl iau
- nid yw pobl hŷn yn gallu defnyddio TG
- mae pobl hŷn yn rhoi straen ar wasanaethau cyhoeddus
- ni ddylai pobl hŷn fod yn gweithio.
Gelyniaethus neu gyfeillgar
Nid yw stereoteipio a rhagfarn yn erbyn gwahanol grwpiau mewn cymdeithas yn edrych yr un fath. Gall fod yn elyniaethus neu yn gyfeillgar.
Un enghraifft elyniaethus fyddai ‘mae pobl hŷn yn straen ar wasanaethau cyhoeddus’.
Mae enghreifftiau cyfeillgar yn cynnwys ‘mae pob menyw hŷn fel nain garedig’. Mae hyn yn dal yn oedraniaeth ac mae’n arwain at ganlyniadau o ran sut rydym yn meddwl, yn teimlo neu’n ymddwyn tuag at bobl hŷn a heneiddio. Nid yw’n ystyried yr unigolyn.