Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Creu amgylchedd i symud o oroesi i ffynnu

Does dim amheuaeth, mae gweithio hybrid yma i aros. Felly, sut ydych chi – fel arweinydd – yn helpu eich hun a’ch timau i oroesi yn y sefyllfa waith hon, ond dechrau ffynnu hefyd? Yn y trosglwyddiad o ymarferion cyn y pandemig i ffyrdd o weithio wedi’r pandemig, ymddengys bod gweithwyr yn gadael gweithleoedd nad ydynt yn eu cefnogi yn eu gwaith, fel yr ydych wedi’i weld o bosibl gyda’r hyn mae’r Sais yn ei alw’n ‘Great Resignation’, sef cyfnod pan mae nifer fawr o bobl yn gadael eu swyddi. Mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o’u hanghenion eu hunain erbyn hyn ac am warchod eu hiechyd meddwl.

Beth ydym ni’n ei olygu gyda ffynnu?

Yn ôl nifer o ddiffiniadau mewn geiriaduron, mae ffynnu yn golygu’r gallu i dyfu a ffynnu a llwyddo, gan barhau i wneud cynnydd. Mae goroesi yn golygu gwneud yr hyn sy’n sylfaenol, y mymryn lleiaf, neu’r hyn sy’n hanfodol i fyw.

Allwch chi gofio amser pan wnaethoch deimlo fel hyn yn y sefyllfaoedd hyn? Ydych chi erioed wedi teimlo eich bod yn sownd yn y dull goroesi? Yn eich barn chi, beth yw’r rheswm dros hynny? Gan fyfyrio ar y pandemig, efallai eich bod wedi teimlo eich bod yn goroesi, yn rhoi un droed o flaen y llall, a’ch bod yn canolbwyntio ar fynd drwy un diwrnod ar y tro. I rai pobl, nid yw trosglwyddo o oroesi i ffynnu yn dod yn rhwydd iddynt: gall fod yn her go iawn. Gall fod yn anodd dod i’r penderfyniad eich bod yn barod i gamu o oroesi i ffynnu, heb sôn am gymryd y camau angenrheidiol. Efallai eich bod yn gweld eich hun yn oedi rhag cymryd y camau hynny i ddiwrnod arall, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo nad ydych yn byw go iawn os ydych yn y modd goroesi.

Gweithgaredd 19 Llunio mantolen goroesi/ffynnu

Myfyriwch ar ba un ai a ydych mewn modd goroesi neu ffynnu ar hyn o bryd. Bydd rhaid i chi fod yn onest gyda chi’ch hunan.

Ceisiwch greu tabl gydag un golofn yn nodi ‘goroesi’ a’r llall yn ‘ffynnu’ a nodwch yr holl gamau gweithredu yr ydych chi’n eu cymryd a’ch teimladau mewn perthynas â phob colofn.

Aseswch eich barn – a yw un ochr yn hirach na’r llall?

Cadwch hwn yn ddiogel gan y byddwch yn dychwelyd ato yn fuan mewn tasg ddiweddarach.

Efallai y bydd angen i chi newid eich meddylfryd

Nid yw’n syndod efallai eich bod yn teimlo eich bod yn y modd goroesi pan fyddwch wedi eich amgylchynu gan newid ac ansicrwydd parhaus, a’ch bod yn ceisio llywio tirlun niwlog gweithio hybrid i chi a’ch timau. Yn ôl Hougaard (2020), mae trosglwyddo o oroesi i ffynnu yn golygu newid yn eich meddylfryd, ailfframio bygythiadau fel posibiliadau. Dyma rai ffyrdd o wneud hyn: 

  1. Meithrin hunan-dosturi ac nid yw hyn yn ymwneud ag eistedd a chroesi eich coesau, gyda’ch llygaid wedi’u cau a myfyrio. Mae’n ymwneud yn fwy â bod yn garedig gyda chi’ch hunan, tawelu’r beirniad mewnol sydd ynoch chi, a bod yn amyneddgar gyda chi’ch hun. Cydnabod nad yw newid yn rhywbeth sy’n digwydd yn syth bin, a’i fod yn cymryd amser ac amynedd, ac y byddwch yn gwneud camgymeriadau ac yn dysgu wrth i chi fynd yn eich blaen. Cymerwch un cam ar y tro. 
  2. Mynd o feddylfryd gosodedig i feddylfryd twf a pheidio â theimlo bod rhaid i chi dderbyn bod angen i chi oroesi, ond y gallwch ffynnu. Yn gysylltiedig â hunan-dosturi, mae meddylfryd gosodedig yn golygu eich bod yn teimlo bod pethau wedi’u rhagosod a’ch bod yn gweld her fel bygythiad. Wel, nid bygythiad ydyw bob tro ac mae’n rhaid i chi newid eich ffordd o feddwl er mwyn cydnabod nad yw methiant yn beth drwg ac y gallwch ddysgu ohono – bydd rhaid i chi ei ystyried fel cyfle i ddysgu a dod yn ôl ar eich traed yn well. 
  3. Meddwl am bethau fel dechreuwr sydd ychydig yn haws nag y mae’n swnio. I rai, rydym ni i gyd yn ddechreuwyr ym maes hybrid a gweithio yn y ffordd unigryw hon er bod rhai rhannau ohoni yn fwy cyfarwydd. Os ydych chi wirioneddol yn meddwl am bethau fel dechreuwr yna gallwch ddechrau mynd yn ôl i’r cychwyn, i’r pethau sylfaenol ac mae bron fel petaech yn ystyried eich rôl, eich tîm a’ch busnes hyd yn oed gyda llygaid ffres – fel pe na baech yn gwybod dim am weithio hybrid.

Gweithgaredd 20 Ailfframio i gamu o oroesi i ffynnu

Gan ddefnyddio’r tri phosibiliad ailfframio uchod, ewch yn ôl at eich rhestr o’r gweithgaredd blaenorol – eich taflen cydbwysedd rhwng goroesi/ffynnu – ac adnabyddwch un neu ddwy eitem yn y golofn goroesi y gallai’r dulliau ailfframio eich helpu chi i’w symud i’r golofn ffynnu.

Yn adrannau nesaf y cwrs, byddwch yn ymchwilio i fwy o fframweithiau a allai fod yn ddefnyddiol i wneud eich sefydliad yn amgylchedd lle mae pobl yn ffynnu, megis gwrando gweithredol a sut mae cyd-weithio yn well. Byddwch hefyd yn ymchwilio sut fydd angen i chi fagu sylfeini diogelwch seicolegol ac ymddiriedaeth er mwyn i bobl deimlo’n ddiogel i godi eu llais a ffynnu.