2.7 Datblygu hunan-ymwybyddiaeth
Yn yr adran hon cewch eich cyflwyno i adnodd ar gyfer meddwl am eich lefelau o hunan-ymwybyddiaeth a datblygu’ch lefelau.
Mae’r Ffenestr Johari wedi’i enwi ar ôl ei dechreuwyr, Joseph Luft a Harrington Ingram. Mae’n cynnwys pedwar maes, a ddangosir yn Ffigwr 5, ac mae’n debyg i bedwar paen mewn ffenestr.
- Mae’r ardal ‘agored’ (sydd hefyd yn hysbys fel arena) yn trafod beth ydych chi’n ei wybod amdanoch chi eich hun. Rydych yn gwybod am yr agwedd hon ac yn hapus ei rhannu gydag eraill. Er enghraifft, os ydych yn hapus dweud wrth rywun am y cryfderau yr ydych yn eu cyflwyno i’ch swydd.
- Mae’r ardal ‘ddall’ (sydd hefyd yn ddallbwyntiau) yn trafod beth mae pobl eraill yn ei wybod ond nad ydych yn ymwybodol ohonynt. Er enghraifft, efallai eich bod yn anymwybodol eich bod yn defnyddio’r dywediad penodol sy’n cythruddo pawb yr ydych yn dod i gysylltiad gyda nhw.
- Yr ardal ‘cudd’ (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘wedi’i fasgio’) yw beth ydych chi’n ei wybod amdanoch chi eich hun ond byddai’n well gennych i bobl eraill beidio â chael gwybod. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys barn nad ydych eisiau ei rhannu ag eraill, yn ogystal ag unrhyw wendidau sydd gennych chi yn eich barn chi.
- Mae’r ardal olaf yn anhysbys i chi ac i eraill. Ar adegau, gelwir yr ardal hon yn anymwybod. Gall hyn gynnwys doniau cudd, teimladau yn yr anymwybod, neu alluoedd a phriodweddau nad ydynt erioed wedi’i dwyn i’r arwyneb. Yng ngeiriau eraill, gall cynrychioli adnoddau a allai helpu’ch dysg. Mae cymryd rhan yn y gweithgareddau newydd gyda grwpiau newydd o bobl yn cynyddu’r debygoliaeth ohonoch chi’n dod i wybod am yr adnoddau hyn, sy’n anhysbys ar hyn o bryd.
Sut i ddefnyddio’r Ffenestr Johari
Diben y Ffenestr Johari yw bod unigolion yn dysgu mwy amdanyn nhw eu hunain a sut mae eraill yn eu canfod. Mae’n adnodd a all hwyluso sgyrsiau ynghylch cryfderau a dallbwyntiau aelodau’r tîm, a fydd yn galluogi’r tîm i weithio gyda’i gilydd yn well. Datgelir gwybodaeth mewn pedair ffordd: hunan-ddarganfod, hunan-ddatgelu, darganfod ac adborth ar y cyd, fel y dengys yn Ffigwr 6.
Byddwch hefyd yn gweld yn Ffigwr 6 nad yw pob un o’r pedwar cwadrant yn gyfartal o ran maint ac y byddant yn amrywio yn dibynnu ar:
- faint ydych chi’n ei rannu gyda phobl eraill
- pa mor dda mae eraill yn eich nabod chi, neu’n trio dod i’ch nabod chi
- pa mor dda ydych chi’n nabod eich hun
Gweithgaredd 12 Cynnal hunanasesiad
Dewiswch bum adferf o’r rhestr isod sy’n eich disgrifio chi orau yn eich barn chi. Byddwch yn wrthrychol ac yn onest.
Galluog | Allblyg | Aeddfed | Hunanhonedig |
Derbynnol | Cyfeillgar | Diymhongar | Hunanymwybodol |
Hyblyg | Hael | Nerfus | Synhwyrol |
Eofn | Hapus | Sylwgar | Sentimental |
Dewr | Cymwynasgar | Trefnus | Swil |
Di-gynnwrf | Delfrydgar | Amyneddgar | Gwirion |
Gofalgar | Annibynnol | Pwerus | Peniog |
Llawen | Dyfeisgar | Balch | Digymell |
Clyfar | Deallus | Tawel | Sympathetig |
Cymhleth | Mewnblyg | Myfyrgar | Ar bigau’r drain |
Hyderus | Caredig | Hamddenol | Ymddiriedadwy |
Dibynadwy | Gwybodus | Crefyddol | Cynnes |
Urddasol | Rhesymegol | Ymatebol | Doeth |
Egnïol | Cariadus | Ymchwilgar | Ffraeth |
Nesaf, gofynnwch i ffrind neu gydweithiwr/aelod o’ch tîm i’ch gwerthuso chi hefyd. Gofynnwch iddo fod yn onest a gwrthrychol wrth ddewis eu pum adferf. Gallech ofyn i aelodau eich teulu, ond efallai y bydd eu hatebion nhw yn gwbl wahanol, gan eu bod yn annhebygol o’ch gweld mewn cyd-destun gwaith.
Nesaf, cymharwch restr adferfau eraill gyda’ch rhestr chi.
- Pan mae adferf yn ymddangos ar y ddwy restr, nodwch honno yn y maes agored.
- Os yw adferf yn ymddangos ar eich rhestr chi ond nid rhestr eich ffrind/cydweithiwr, nodwch honno yn y maes cudd.
- Pan mae adferf yn ymddangos ar restr eich ffrind/cydweithiwr, ond nid yw ar eich rhestr chi, nodwch honno yn y maes dallbwynt.
- Nodwch unrhyw adferf sydd ar ôl ar unrhyw restr yn y maes anhysbys.
Yn olaf, myfyriwch a oes unrhyw adferfau yr ydych wedi synnu bod rhywun wedi’u defnyddio i’ch disgrifio chi nad oeddech chi wedi’u defnyddio i’ch disgrifio chi eich hunan.
Trafodaeth
Does yr un o’r meysydd hyn yn bendant. Gallwn gynyddu maint y maes agored drwy ofyn i bobl eraill ddweud wrthym yr hyn maent yn ei wybod yn ein cylch ni – yng ngeiriau eraill, gofyn iddynt am adborth. Gallwn hefyd gynyddu’r maes hwn drwy ddatgelu agweddau cudd arnom ni ein hunain i bobl eraill. Gallwn leihau maint y maes anhysbys drwy ystyried ni ein hunain (hunan-ddarganfod) neu ddysgu mwy amdanom ni ein hunain gyda chymorth eraill (darganfod ar y cyd).
Os ydych wedi defnyddio Ffenestr Johari o’r blaen, ydych chi’n credu bod y pandemig a/neu weithio hybrid wedi effeithio’r adferfau y dewisasoch chi neu y dewisodd eich ffrind/cydweithiwr?