Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Rheoli a dylanwad

Dywedodd athronydd enwog o Roeg, Epictetus, wrthym am wneud y gorau o’r hyn y gallwn ei reoli, a chymryd y gweddill fel y daw. Meddai:

Mae rhai pethau y gallwn eu rheoli ac eraill yn bethau na allwn eu rheoli. Y pethau y gallwn eu rheoli yw barn, diddordeb, awydd, atgasedd, a, mewn gair, beth bynnag yw ein gweithrediadau. Y pethau na allwn eu rheoli yw corff, eiddo, enw da, awdurdod, ac, mewn gair, beth bynnag nad ydynt yn ein gweithrediadau.

(Daily Stoic, 2021)

Felly, beth mae hynny’n ei olygu? Yn rhan o weithio mewn ffyrdd newydd yw deall bod angen i ni ddysgu i ganolbwyntio ar y pethau y gallwn eu newid a dysgu i dderbyn bod rhai pethau na allwn eu newid. Mae’n haws dweud na gwneud hynny wrth reswm. Gallwn deimlo ein bod wedi colli rheolaeth ar adegau, a gall hynny arwain at deimladau o fethiant, diymadferth, ac anobaith. Nid yw hyn yn gwneud daioni i’n hiechyd meddwl a gall arwain at lefelau uchel o orbryder a straen.

Sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl am reolaeth?

Fel arweinydd, efallai eich bod chi’n teimlo y dylech chi feddu ar y rheolaeth ac y dylech reoli sefyllfaoedd, ond mae’r pandemig wedi gwneud i nifer ohonom deimlo ein bod allan o reolaeth yn fwy nag erioed (Hope, 2021). Yn y cyfnod hwn, rhai o’r unig bethau y gallasem eu rheoli oedd golchi ein dwylo a dilyn canllawiau ynghylch cwrdd â phobl eraill. Nid oedd ymdopi â Covid yn ein cyfuniad dyddiol o ysgogwyr straen meddai Susan Albers, seicolegydd clinigol yn Cleveland Clinic sydd wedi canolbwyntio ar bobl sydd â phroblemau rheoli yn ystod ei gyrfa. Does dim llawlyfr i ymdopi â Covid. Nid oes esiamplau neu ymchwil wedi’i ddogfennu sy’n dangos i ni sut mae ymdopi’n effeithiol â phandemig byd-eang. Mae angen cyfuniad newydd o sgiliau ymdopi ar gyfer Covid nad yw nifer o bobl erioed wedi gorfod eu hymarfer (Hope, 2021).

Gwnaethom ddysgu nad ydym yn gallu rheoli unrhyw un nac unrhyw beth ar wahân i ni ein hunain. Rydym yn teimlo bod angen i ni reoli eraill er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau, ac efallai y byddech yn gweld eich hun yn dweud bod gennych ddiffyg rheolaeth dros wahanol feysydd, adrannau neu sefyllfaoedd hyd yn oed. Yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud go iawn yw petai gennych reolaeth dros y bobl ynddynt, yna gallech gwblhau’r gwaith sydd angen i chi fod wedi’i gwblhau! Serch hynny, mae rheolaeth yn fwy o rithganfyddiad. Yn ôl Richards (2018), mae arweinyddiaeth yn ymwneud â dylanwad, yn hytrach na rheolaeth, ac mae’r arweinwyr gorau yn ysbrydoli ac yn cymell yn hytrach na gorchymyn.

Beth sydd gennych chi reolaeth drosto?

Mae’r pethau y gallwch chi eu rheoli fel arweinydd yn cynnwys:

  • eich ymatebion
  • eich agweddau
  • eich tueddiadau.

Gweithgaredd 6 Cofnodi’ch ABC

Pwrpas y gweithgaredd byr hwn yw eich helpu chi i ddeall nad yw digwyddiadau allanol yn achosi emosiynau, ond maen nhw’n effeithio ar ein credoau. Mae’n ymarfer da i gynhesu i fyny o ran hunan-ymwybyddiaeth cyn i chi symud ymlaen i adran nesaf y cwrs. Bydd yn creu ymarfer ymdawelu i’ch helpu chi i fyfyrio ar sut ydych yn ymateb i ddigwyddiadau ac yn cynnig syniadau o’r hyn y gallech ei wneud y tro nesaf.

  • Mae ‘A’ yn sefyll am ‘activating’, sef gweithredu’r digwyddiad sy’n ysgogi eich deialog fewnol
  • Mae ‘B’ yn sefyll am ‘beliefs’, sef y meddyliau y cawsoch ar ôl y digwyddiad
  • Mae ‘C’ yn sefyll am ‘consequences’, sef canlyniadau neu sut ydych chi’n teimlo.

Y sefyllfa:

Dychmygwch eich bod wedi ceisio mewngofnodi i’ch gliniadur ac mae eich Wi-Fi yn annibynadwy neu’n ansefydlog. Rydych chi’n dechrau pryderu wrth feddwl na fyddwch yn gallu bod yn brydlon yn eich cyfarfod rhithiol, a hwnnw’n gyfarfod mawr gyda gweddill y tîm ac aelod o’r uwch dîm rheoli. Beth yw eich ABC yn y sefyllfa hon?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Yr ysgogiad (activating) yn y sefyllfa hon yw’r band llydan yn annibynadwy.

Gall eich meddyliau (beliefs) gynnwys ei bod hi’n edrych fel petaech yn diogi neu nad ydych yn gweithio, oherwydd bod ymuno â chyfarfod yn brydlon yn bwysig i chi. Efallai y byddech yn credu y byddai methu’r cyfarfod neu fod yn hwyr iddo yn gwneud drwg i’ch enw da ac yn effeithio ar sgyrsiau adolygu perfformiad.

O ganlyniad, efallai eich bod wedi mynd i banig ac wedi taro’r bysellfwrdd, ceisio mewngofnodi’n wyllt ar eich ffôn symudol, a ffonio’r darparwr band llydan a gweiddi ar yr aelod o staff.

Dod yn ôl ar eich traed ar ôl teimlo eich bod wedi colli rheolaeth

Fel rhan o ddeall eich hunan fel arweinydd hybrid, byddwch yn edrych ar yr hyn y gallwch ei ddylanwadu a’i reoli. Weithiau, bydd rhai pethau a fydd yn peri pryder i chi ond na allwch eu dylanwadu, a gall hynny fod yn anodd.

Gwyliwch y fideo: Circle of Influence - From The 7 Habits of Highly Effective People [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Yn y fideo, clywsoch am sut ydym yn gweithredu mewn dau gylch:

  • Y cylch pryder – y pethau yr ydym yn gofalu amdanynt ond na allwn gael unrhyw effaith arnynt ac nad oes gennym reolaeth drostynt.
  • Y cylch dylanwad – y pethau y gallwn eu heffeithio ac mae gennym ddylanwad drostynt.

Mae’r syniad hwn wedi’i ddwyn o lyfr Stephen Covey The 7 Habits of Highly Effective People (Covey, 1989). Mae Covey yn gwahaniaethu rhwng pobl ymatebol, sy’n canolbwyntio ar egni y cylch pryder, a phobl ragweithiol, sy’n canolbwyntio ar y cylch dylanwad.

Mae canolbwyntio ar y cylch pryder yn wastraff egni ac yn pylu dylanwad. Dangoswyd enghraifft o hyn yn y fideo ac, o ganlyniad, dieithriodd y tîm gweithredol o’i gwmpas. Roedd un swyddog gweithredol yn y fideo yn rhagweithiol – gweithredodd ar ei fenter a chanolbwyntio ar ei gylch dylanwad ei hun. Gan weithio i gyd-fynd â chryfderau’r arweinydd a oedd yn canolbwyntio ar y cylch pryder, a thhrwy’r broses honno creodd y swyddog gweithredol gefnogaeth rymus a chynyddu ei gylch dylanwad.

Y cylch rheolaeth

Mae model Stephen Covey wedi’i addasu gan y seicolegydd Claire Newton i gynnwys trydydd cylch – y cylch rheolaeth.

Delwedd yn dangos tri chylch consentrig. Mae’r cylch allanol yn las tywyll, wedi’i labelu’n Cylch Pryder. Mae’r cylch canol yn las goleuach, wedi’i labelu’n Cylch Dylanwad. Mae’r cylch mewnol yn oren, wedi’i labelu’n Cylch Rheolaeth. Y tu allan i’r cylchoedd, yng nghornel chwith uchaf y ffigwr, mae’r geiriau Dim pryder.
Ffigur 4 Cylchoedd rheolaeth.

Mae’r cylch rheolaeth mewnol yn ymwneud â’r pethau y mae gennym ni reolaeth uniongyrchol drostynt. Mae hyn yn cynnwys ein meddyliau a’n hymddygiadau ein hunain. Gall hefyd gynnwys ein penderfyniadau, dewisiadau, hwyliau, moesau gwaith a’n geiriau hyd yn oed.

Pan ydych yn arwain gyda dylanwad, rydych yn datblygu deialog gyda’ch tîm, yn hytrach na dweud wrthynt beth i’w wneud. Rydych yn annog y tîm ac yn arddangos ymddygiadau ac iaith gadarnhaol, yn hytrach na mynnu cydweithrediad. Gyda’r dull gweithredu hwn, rydych yn debygol o ennill parch y tîm a gwella eu hymgysylltiad. Gan ddefnyddio dylanwad, rydych chi’n newid y ffordd mae’r tîm yn canfod sefyllfaoedd, neu’n ymateb iddynt, sy’n eich caniatáu chi i gael y gorau o aelodau’r tîm, hyd yn oed dan amodau heriol.

Y prif wersi yn ymwneud â rheolaeth a dylanwad yw:

  • Os na allwch ei reoli, peidiwch â rhoi eich hun dan straen.
  • Os na allwch ei ddylanwadu, peidiwch â chynhyrfu dros y peth.
  • Canolbwyntiwch ar yr hyn y gallwch ei newid, yn hytrach na’r hyn na allwch ei newid.

Mae dylanwad yn well na rheolaeth

Er mwyn dod yn arweinydd gwell, cred Richards (2018) bod rhaid i chi gydnabod bod eich gallu i ddylanwadu yn llawer pwysicach na’ch pŵer i reoli. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â gwasanaeth. Ymatalwch rhag ficroreoli, gan y gall hynny ymddangos fel nad ydych yn ymddiried yn eich cyflogeion. Yn hytrach, cymerwch yr amser i ddirprwyo i eraill. Mae’n bosibl rheoli a bod yn arweinydd, ond mae’n anodd iawn rheoli a dylanwadu ar yr un pryd, ac ar adegau efallai fod angen i chi gymryd yr awenau ac arwain eraill.

Gweithgaredd 7 Eich cylchoedd rheolaeth a dylanwad

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn myfyrio ar eich:

  • cylchoedd rheolaeth
  • cylchoedd dylanwad
  • cylchoedd pryder

Mae lle wedi’i ddarparu ar eich cyfer chi isod i deipio’ch nodiadau, ond gallech greu eich bwrdd digidol eich hun (e.e. gan ddefnyddio adnoddau megis Padlet, Miro neu Mural) neu wneud llun o un ar bapur a defnyddio papurau Post-it i’w anodi. Gallech ganolbwyntio hwn ar eich rôl fel arweinydd hybrid neu gallai ymwneud â rhywbeth yn eich bywyd yn gyffredinol, ond mae’n ffordd dda o ymdawelu eich meddyliau o ran yr hyn y gallwch ei reoli a chael rheolaeth drosto a beth na allwch ei reoli.

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).