3.4 Yr angen am sgiliau cydweithredu newydd
Mae Dhawan a Chamorro-Premuzic (2018) yn pwysleisio sawl her ynghlwm â chyfathrebu ar-lein a all rwystro cydweithredu, gan gynnwys diffyg iaith y corff weladwy, sy’n arwain at gamddehongliadau. Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad yw nifer o ‘drafodaethau’ digidol yn digwydd mewn amser real, ond gallant gynnwys negeseuon yn cael eu cyfnewid drwy gydol y diwrnod (ac weithiau yn ystod y nos).
Dadleuant fod her cyfathrebu ar-lein yn cynnwys tri math o bellter:
- Pellter corfforol: Unigolion mewn timau dosranedig, gwasgaredig neu hybrid mewn gwahanol leoedd ac efallai’n gweithio mewn rhanbarth amser gwahanol.
- Pellter gweithredol: Gellir cael amrywiaeth ym maint timau, ystod a lefelau sgiliau y rheini yn lleoliadau gwahanol.
- Pellter cyswllt: Gellir cael pellter o ran gwerthoedd, ymddiriedaeth a chyd-ddibyniaeth y rheini yn lleoliadau gwahanol.
I lwyddo gyda gweithio o bell, mae Dhawan a Chamorro-Premuzic yn awgrymu canolbwyntio ar leihau pellter cyswllt rhwng aelodau’r tîm. Dyma rai awgrymiadau ymarferol i wneud hyn:
- Mewn cyfathrebu o bell, ceisiwch ddefnyddio galwadau fideo yn hytrach na negeseuon e-bost neu alwadau llais yn unig.
- Peidiwch â drysu rhwng gohebiaethau cryno a gohebiaethau clir. Gwnewch beth allwch chi i gyfathrebu’n glir ac yn ddiamwys, hyd yn oed os ydy hynny’n cymryd mwy o amser.
- Peidiwch â gorlwytho’ch tîm gyda gormod o negeseuon.
- Sefydlwch arferion yn eich tîm sy’n ymwneud â gohebiaeth ar-lein (pa sianelau cyfathrebu y byddwch chi’n eu defnyddio, erbyn pa bryd ydych chi’n disgwyl ateb i neges a pha mor ffurfiol ddylai’r iaith fod).
- Sefydlwch storfeydd yn cynnwys gwybodaeth berthnasol y gall pawb eu ceisio.
- Adnabyddwch gyfleoedd – er enghraifft, gall gosodiad ar-lein annog y rheini sy’n fwy cyfforddus gyda chyfathrebu’n ysgrifenedig i fynegi eu barn a rhannu eu syniadau.
- Cynhaliwch weithgareddau adeiladu tîm sy’n rhoi cyfleoedd i’r tîm gyfathrebu gyda’i gilydd yn rheolaidd a rhoi eu sgiliau cyfathrebu ar waith.
- Crëwch le i ddathlu (pen-blwyddi, lansio cynhyrchion, croesawu aelodau newydd ac ati). Gall hyn gryfhau perthnasoedd yn y tîm a sefydlu’r sylfaen ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.
Yn ôl James Law, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn Envato: Mae ofn ynghlwm â chydweithredu ei fod yn seiliedig ar gyswllt wyneb yn wyneb, ond nid yw hyn yn wir mewn gwirionedd! Gall pobl weithio ar bethau gyda’i gilydd yn anghydamserol a bod yr un mor effeithiol!’ (Remote.co, dim dyddiad).
Daw cydweithredu ar-lein gyda’i heriau, ond gydag ymdrech gennych chi fel arweinydd hybrid, gall fod yn effeithiol. Gallwch sicrhau bod eich tîm dosranedig, gwasgaredig neu hybrid yn cwrdd gyda’i gilydd ar-lein mor aml ag y byddant petai’r cwbl yn yr un swyddfa (Sutherland a Janene-Nelson, 2020). Eich swydd chi yw datblygu diwylliant o ymddiriedaeth a chydweithredu sy’n gweithio gystal ar-lein ag y byddai ar gyfer tîm sy’n gweithio wyneb yn wyneb.
Gweithgaredd 24 Cwch hwyliau trosiadol
Fel rhan o’r dasg hon, byddwch yn rhoi cynnig ar adnodd myfyriol i feddwl am sut ydych chi’n cydweithio gyda’ch timau hybrid.
- Tynnwch lun o gwch hwyliau yn y môr gan ddefnyddio papur, bwrdd gwyn neu adnodd digidol perthnasol. Dylai’r cwch fod yn ei gwneud hi am ynys. Dylai bod gwynt yn yr hwyliau, angor ,a cherrig rhwng y cwch a’r ynys. Gweler y ddelwedd isod am syniad o’r math o ddyluniad a ddisgwylir.
- Myfyriwch ar eich profiad o gydweithredu gyda thîm dosranedig, gwasgaredig neu hybrid nawr neu yn y gorffennol. Os nad oes gennych brofiad o weithio yn y math hwn o dîm, dychmygwch y math o faterion a all godi.
- Gan ddefnyddio papurau Post-It os ydych wedi tynnu llun o’r cwch ar bapur, neu gan ddefnyddio testun ar ddelwedd ddigidol, ychwanegwch labelau i’r diagram fel a ganlyn:
- Cwch hwyliau: Ychwanegwch labelau yma i ddangos pwy sydd ‘yn eich cwch’ – hynny yw, pwy sydd yn eich tîm.
- Ynys: Beth yw nod eich tîm?
- Gwynt: Pa ffactorau sy’n helpu’r cwch hwyliau i agosáu at yr ynys (yn enwedig yr ardal cydweithredu ar-lein)?
- Angor: Beth sy’n dal y cwch hwyliau yn ôl?
- Cerrig: Pa risgiau yn y dyfodol a all eich atal chi rhag cyrraedd yr ynys?