2 Mae ffyrdd newydd o weithio yn gofyn ffyrdd newydd o arwain
Pwy ydych chi fel arweinydd hybrid? Bydd yr adran nesaf hon o’r cwrs yn canolbwyntio arnoch chi a’ch rôl fel arweinydd hybrid. Bydd rhaid i chi fod yn hyblyg yn y modd yr ydych yn arwain i addasu i’r byd bregus, ansicr, cymhleth ac amwys yr ydym yn byw ynddo, ac mae’r hyblygrwydd hwnnw yn gofyn hunan-ymwybyddiaeth. Mae Anderson ac Adams (2019) yn credu ein bod yn dod yn arweinwyr gwell drwy drawsnewid ein hunain.
Yn y fideo nesaf, mae Jacob Morgan, awdur hynod lwyddiannus, llefarydd a Dyfodolwr cymwys, yn canolbwyntio ar y rhinweddau sydd eu hangen ar arweinwyr ar gyfer y dyfodol.

Transcript
Wrth feddwl am arweinwyr gwych yr ydych wedi’u gweld mewn sefydliadau yr ydych wedi gweithio iddynt neu gyda nhw, efallai eich bod wedi sylwi ar rinweddau maen nhw’n meddu arnynt yr hoffech chi eu datblygu. Efallai fod rhinweddau ac ymddygiadau eraill yr ydych chi’n teimlo nad ydych eisiau eu datblygu.
Gall fod yn unig ar frig yr ysgol
Cyhoeddodd Sarah McVanel ganllaw yn dwyn y teitl ROCK as a Leader: How to Thrive Through Change and Crisis [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn trafod sut mae goroesi gwneud penderfyniadau anodd, oherwydd bod brig yr ysgol yn lle unig (Dyer, 2022, t. 138). Yn ystod COVID-19 yn fwy nag erioed, bu rhaid i arweinwyr wneud penderfyniadau heriol a allai effeithio ar nifer, os nad cannoedd neu filoedd, o bobl, pan oedd gwybodaeth dameidiog ar gael iddynt. Casglodd McVanel gyfuniad o ymddygiadau arwain i alluogi arweinydd i fod yn ‘seren y byd roc’ neu ROCK yn y cyd-destun hwn, lle mae ROCK yn sefyll am ‘recognise’, ‘organise’, ‘communicate’ a ‘kindness’. Yn ôl Sarah, bydd ymddwyn fel hyn yn galluogi eich tîm i gyflawni canlyniadau STAR: satisfaction, teamwork, accomplishment a retention. Dadleua McVanel y bydd yr ymddygiadau hyn yn eich paratoi chi i oroesi mewn byd hybrid a goroesi argyfwng, yn ogystal â hynny bydd yn eich galluogi chi a’ch tîm i ffynnu a pharhau i ffynnu y tu hwnt i’r argyfwng.
Gweithgaredd 5 Y gorau a’r gwaethaf ymhlith arweinwyr hybrid
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn myfyrio ar briodweddau arweinyddiaeth hybrid drwy ysgrifennu blog ffugiol o ddau bersbectif:
- Fel pe baech chi yw’r arweinydd hybrid gorau un
- Fel pe baech chi yw’r arweinydd hybrid gwaethaf un
Meddyliwch sut un fyddai’r ddwy fersiwn o arweinydd hybrid, a sut fyddent yn swnio a sut fyddent yn meddwl, yn teimlo ac yn gwneud yn eich sefydliad. Ystyriwch yr effaith maen nhw’n ei chael ar y busnes a’u cyflogeion. Anelwch at ysgrifennu uchafswm o oddeutu 200 gair ar gyfer pob fersiwn.
Os ydych yn anghyfforddus yn ysgrifennu’n greadigol, ymchwiliwch i enghraifft dda o arweinydd hybrid gwych ac enghraifft o arweinydd hybrid gwael. Ar gyfer pob enghraifft, ystyriwch yr effaith maen nhw’n ei chael ar y sefydliad a’i gyflogeion. Eto, anelwch at ysgrifennu uchafswm o oddeutu 200 gair ar gyfer pob fersiwn.
A ydych chi’n rhannu unrhyw nodweddion gyda’r arweinwyr yr ydych wedi ysgrifennu amdanynt?