1.7 (Ail)ddylunio a datblygu’ch diwylliant hybrid
Gall newid diwylliant eich sefydliad fod yn ddigon i’ch llethu, ond gall gweithredoedd bach symud pethau ymlaen. Canolbwyntiwch ar bum maes allweddol a adnabuwyd gan Stanier et al. (2022) a gafodd eu cyflwyno yn yr adran flaenorol a rhowch gynnig ar ateb y cwestiynau a restrwyd.
Ysgrifennodd James Clear un tro am y theori cyfanredu enillion ymylol, lle’r ydym yn darbwyllo ein hunain bod llwyddiant enfawr yn gofyn gweithredu enfawr. Serch hynny, mae’r gwahaniaeth y gall mân welliant ei wneud dros amser yn syfrdanol.
Os allwch chi wneud bywydau gwaith eich cyflogeion un y cant yn well bob dydd am flwyddyn, ar ôl 12 mis byddwch wedi gwella eu sefyllfa o 37 y cant, fel y dengys gan ddarlun Clear isod.
Efallai na fyddwch yn gallu gwneud gwelliannau mawr yn syth, ond nid yw’r pethau mwyaf arwyddocaol mewn bywyd yn ddigwyddiadau unigol, ond yn gyfuniad o’n profiadau a’r newidiadau yr ydym yn dewis eu gwneud.
I ddeall sut mae datblygu diwylliant eich sefydliad, mae angen i chi gael delwedd o sut beth ydyw ar hyn o bryd. Bydd ein gweithgaredd nesaf yn helpu gyda hyn.
Gweithgaredd 4 Y ‘Culture Design Canvas’
Mae Fearless Culture, cwmni ymgynghori diwylliant y gweithle, wedi datblygu adnodd mapio o’r enw Culture Design Canvas i helpu busnesau:
- asesu diwylliant cyfredol eu sefydliad
- dylunio’r diwylliant yr hoffent ei gael yn y dyfodol, ac
- esblygu eu diwylliant er mwyn ei gadw’n gyfredol a pherthnasol, ac archwilio posibiliadau ar gyfer y sefydliad yn y dyfodol.
Cymerwch amser i archwilio tudalen y Culture Design Canvas [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Talwch sylw arbennig i’r canlynol:
- Gwahanol adrannau’r Culture Design Template: a oes unrhyw beth yn eich synnu chi?
- Yr enghreifftiau a ddarperir gan sefydliadau eraill: i ba raddau maen nhw’n adlewyrchu eich profiad o ddiwylliant sefydliadol mewn prifysgol?
Fel arweinydd, ydych chi’n credu fyddai Culture Design Canvas yn adnodd defnyddiol i fapio’r diwylliant yn eich sefydliad?
Os felly, sut fyddech chi’n ei ddefnyddio? A fyddech chi’n ei wneud ar-lein gan ddefnyddio adnodd digidol megis MURAL, neu a fyddech chi’n casglu’ch tîm i’r un lle ffisegol a defnyddio adnoddau analog megis bwrdd gwyn neu binnau ysgrifennu a phapur?
Defnyddiwch y lle isod i nodi’ch sylwadau os hoffech chi.