Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Cyflwyniad

Ymddengys bod gweithio hybrid wedi dod yn fwyfwy derbyniol ers y pandemig, gyda’r arfer o weithio mewn lleoliadau gwahanol yma i aros i nifer o sefydliadau. Am flynyddoedd, mae nifer o gyflogeion wedi brwydro gyda biwrocratiaeth am yr hawl i weithio lle bynnag maen nhw’n teimlo yw’r lleoliad mwyaf cynhyrchiol iddyn nhw, ac i rai, dim ond breuddwyd ydoedd. Serch hynny, i eraill dyma yw’r realiti newydd. Does dim ond angen i chi edrych ar hysbysebion swyddi ar LinkedIn a chan gwmnïau recriwtio megis Indeed, i weld nad yw gweithio o bell neu hybrid yn cael ei ystyried yn fantais mewn swydd rhagor, ond yn ofyniad hanfodol. 

Er bod cyflogeion a chyflogwyr yn mwynhau buddion amrywiol modelau gweithio hybrid; mae angen i arweinwyr fod yn fwy ymwybodol nag erioed o sut mae hynny’n gwneud i’w cyflogeion deimlo a gwneud beth bynnag sydd angen iddynt ei wneud i fod yn fwy empathetig nag erioed. Oherwydd ein bod wedi ein gorfodi i weithio gartref yn ystod y pandemig, cawsom gipolwg ar fywydau domestig ein gilydd, ond gall ymarferion empathetig ac arferion a ffurfiwyd yn ystod y pandemig ddechrau pylu, a gall yr hen arferion o weithio wyneb yn wyneb ddechrau eto. Rhaid i arweinwyr gamu i’r adwy ac egluro beth mae gweithio hybrid yn ei olygu a gosod fframweithiau, polisïau a chanllawiau addas i gefnogi eu cyflogeion. 

Fel y dywedodd Vanderheyden a De Stobbeleir (2022), mae gweithio mewn amgylchedd gweithio hybrid yn gofyn mwy na chysylltiad Wi-Fi da a chadair swyddfa ergonomig yn y cartref’. Rhaid i arweinwyr gydnabod y bydd angen sgiliau gwahanol i gefnogi eu cyflogeion a’r rheolwyr. Mae cyfarfodydd hybrid – i adeiladu pontydd rhwng y rheini yn y swyddfa a’r rheini sy’n gweithio gartref – yn anodd; nid oes angen i reolwyr microreoli ond caniatáu eu cyflogeion wneud eu penderfyniadau eu hunain. Bydd gwrando gweithredol yn dod yn fedr canolog i gyfathrebu’n effeithiol. Yn aml, mae’n hawdd i’ch sylw gael ei dynnu oddi wrth waith wrth weithio y tu allan i’r swyddfa gyda blaenoriaethau yn mynd yn erbyn ei gilydd, neu deimlo eich bod wedi eich llethu mewn swyddfa lle ceir system o weithio wrth sawl gweithfan ac wrth chwilio am le i weithio.  

Nid oes amheuaeth bod gweithio hybrid yma i aros ac, os caiff gefnogaeth, gall fod yn newid cadarnhaol iawn i sefydliad, ond mae angen i arweinwyr fabwysiadu cynhwysiant a magu cysylltiadau gyda’u gweithluoedd hybrid. 

Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn, sy’n rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , wedi’i ddylunio i ganiatáu dysgwyr i fyfyrio ar drefniadau gweithio hybrid a rhoi blas ar rai o safbwyntiau gwahanol o ran ystyr ‘hybrid’, yn ogystal ag archwilio meysydd megis atebolrwydd a sgiliau cyfathrebu. Drwy gydol y cwrs, cyfeirir at fframweithiau a chanllawiau i’ch helpu chi i adnabod sut i symud ymlaen ac addasu ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol.