3.5 Sut mae arwain timau cydweithredol?
Hyd yn hyn, rydych wedi archwilio pa mor dda ydych chi’n cydweithredu ar hyn o bryd a’r amodau sydd eu hangen ar gyfer cydweithredu. Yn yr adran hon, byddwch yn canolbwyntio’n agosach ar ffyrdd o gefnogi cydweithredu yn eich tîm fel arweinydd.
Wrth feddwl am gydweithrediad a pherfformiad tîm, defnyddiol yw ystyried tîm chwaraeon, yn y maes pêl-droed neu bêl fasged dyweder. Dychmygwch y tîm yn gweithio gyda’i gilydd i alluogi un o’u chwaraewyr sgorio. Beth a arweiniodd at y chwaraewr yn sgorio? Sut oedd ef yn gwybod lle i fod a beth i’w wneud? Mae dawn y chwaraewr sy’n sgorio yn bwysig. Ond er mwyn i’r chwaraewr hwnnw fod mewn sefyllfa i sgorio, roedd rhaid i’r tîm gael gweledigaeth gyffredin yr oedd pawb yn ei deall, strategaeth gyfunol ac ymddiriedaeth yn y naill a’r llall (Boitnott, 2015).
Mae’r awgrymiadau canlynol gan McCarthy (2020) yn sefydlu nifer o’r syniadau allweddol yr ymdriniwyd â nhw yn yr adrannau blaenorol. Er mwyn magu cydweithrediad yn eich tîm:
- ymatalwch rhag cymryd arnoch fod gennych yr holl atebion – caniatewch i eraill gael mewnbwn
- gwrandewch yn weithredol ar eich tîm a sicrhewch eich bod yn gofyn y cwestiynau iawn
- gweithiwch ochr yn ochr â’ch tîm i gael gwybod beth sydd ei angen arnynt – osgowch ddull o’r brig i lawr
- canolbwyntiwch ar fagu perthnasoedd personol ar draws y tîm
- sefydlwch ymddiriedaeth yn eich arweinyddiaeth – arweiniwch drwy esiampl; byddwch yn onest, yn enwedig ynghylch eich camgymeriadau, a glynwch wrth eich ymrwymiadau, gan drin cydweithwyr yn gyfartal a chydnabod cyflawniadau
- gwnewch y mwyaf o amrywiaeth yn y tîm
- dysgwch i ddatrys achosion o wrthdaro – dylid disgwyl bod gwrthdaro yn codi pan mae tîm yn cydweithio, gan eich bod yn dwyn ynghyd syniadau a phersbectifau gwahanol i gyflawni’r datrysiadau gorau; datblygwch eich sgiliau myfyrio a’ch gallu i gyfaddawdu gydag empathi – mae eich rôl yma yn hollbwysig
- dysgwch sut mae gwneud penderfyniadau consensws – sicrhewch eich bod yn cael cefnogaeth gan eich tîm i wneud pob penderfyniad, a’u helpu i weithio gyda’i gilydd i wireddu’r un nod.
Rhanna Ossawa (2019) ragor o enghreifftiau ymarferol o sut allwch chi, fel arweinydd hybrid, gefnogi’ch tîm i gydweithredu. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar fagu ymddiriedaeth yn y tîm a gwella cyfathrebu. Mae’r syniadau yn cynnwys:
- Creu dealltwriaeth gyffredin: Mae angen i chi greu iaith gyffredin, glir. Defnyddio iaith syml, ddiamwys yn eich gohebiaethau. Gweithio fel tîm i greu disgrifiadau ffurfiol o dasgau a sicrhau bod pawb yn eu deall – er enghraifft, gofynnwch i aelodau’r tîm grynhoi eu dealltwriaeth o’r hyn sydd ynghlwm â’u tasg cyn iddynt ddechrau arni.
- Cynnwys aelodau’r tîm mewn trafodaethau: Mae angen i bawb yn y tîm gael cyfle i ddweud eu dweud, nid yn unig y rheini sy’n dueddol o fod yn fwy parod eu barn. Annog pawb i gyfrannu syniadau. Gall syniadau da ddod o unrhyw le yn y sefydliad, ac mae hynny’n cynnwys ar draws pob aelod o’r tîm.
- Diweddaru aelodau’r tîm am y nodau a’r genhadaeth ehangach: Cynnwys aelodau’r tîm a’u diweddaru ynghylch y genhadaeth a’r broses yn gyffredinol, gan roi dealltwriaeth iddynt. Er enghraifft, o ddiddordebau rhanddeiliaid neu nodau sefydliadol. Peidio â gofyn i aelodau’r tîm weithio ar dasgau heb unrhyw syniad o sut mae eu gwaith yn cyfrannu at y ddelwedd ehangach.
- Peidio â microreoli: Dysgu i adael fynd ar bethau. Caniatáu lle i aelodau’r tîm weithio fel tîm a dangos ymddiriedaeth ynddynt i wneud eu gwaith.
- Dathlu cyflawniadau a rhannu camgymeriadau: Sicrhau eich bod yn dathlu llwyddiannau yn y tîm. Ar yr un pryd, byddwch yn dryloyw ynghylch yr hyn sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella. Bydd hyn yn magu ymddiriedaeth yn y tîm. Creu lle diogel i aelodau’r tîm rannu gwybodaeth ynghylch camgymeriadau.
Mae’r pwynt olaf yn hollbwysig. Mae cydweithredu yn dibynnu ar aelodau’r tîm yn teimlo’n ddigon cyfforddus i rannu gwybodaeth ynghylch camgymeriadau a phethau sy’n mynd o chwith.
Gweler enghraifft o ddiffyg hyn yn achos Hediad 173 United Airlines a gafodd ddamwain ym 1979. Ymddengys bod y ddamwain wedi digwydd yn rhannol oherwydd problemau gyda’r arddull rheoli o’r brig i lawr. Wrth drafod mater gweddol fân gyda’r awyren, teimlodd aelodau ieuengach o’r criw nad oeddent yn gallu dweud wrth y capten am broblem angheuol yr oedd yn ei hesgeuluso – sef bod tanwydd yr awyren yn dod i ben (Rogers, 2020).
I gydweithredu, mae angen i’ch tîm deimlo’n ddiogel i rannu eu pryderon cyn bod y materion a adnabuwyd yn gwaethygu i fod yn gatastroffig.