1.2 Mae angen i arweinwyr godi’r safon
Yn sgil pandemig COVID-19, cawsom gyfle i ‘godi’r safon’ (Gratton, 2022, t. 6) a ‘chodi’, a chafodd wared ar yr oedi a’r llusgo traed a oedd yn digwydd o’r blaen mewn sefydliadau a’r swyddogaethau oddi mewn iddynt. Dechreuodd arweinwyr busnes wrando ar eu timau, ymgymryd ag agwedd fwy empathetig, a deall sefyllfaoedd eu cyflogeion. Hyd y pwynt hwn, nid oedd nifer o arweinwyr wedi bod yn ymwybodol o realiti sefyllfaoedd domestig eu cyflogeion, ond datgelwyd drwy alwadau fideo nad cyflogeion yn unig mo’r gweithwyr, ond rhieni gyda phlant, neu arbenigwyr ifanc, unig gyda phrin gyfleusterau i weithio gartref, neu deuluoedd aml-genhedlaeth yn rhannu lleoedd mor gyfyng nes bod rhaid i bobl weithio ar welyau i gwblhau eu tasgau. Yr hyn a wnaeth y pandemig oedd ‘Lift the veil of ignorance’ (athronydd John Rawls, 1970, dyfynnwyd yn Gratton, 2022, t. 6) wrth i arweinwyr wynebu anawsterau cyffelyb i’w cyflogeion; daeth hyn â theimladau llawer mwy dwys o empathi yn gyflym iawn, rhywbeth a oedd wedi bod yn anodd ei efelychu mewn cyrsiau hyfforddiant tan yr adeg hon.
Yn 2020, symudodd Hiroki Hiramatsu, Pennaeth AD Byd-eang Fujitsu, 80,000 o’u tîm i weithio gartref. Cyn pen dim, dechreuasant sylwi ar y buddion, gyda 55% ohonynt yn ffafrio’r cyfuniad o weithio gartref ac mewn swyddfa – model hybrid. Fis Medi 2021, datganodd nad oedd y cwmni am ddychwelyd i’r hen ffordd a bod y ddwy awr mae nifer o bobl yn eu treulio yn cymudo yn wastraff – gallant ddefnyddio’r amser hwnnw ar gyfer addysg, hyfforddiant, treulio amser gyda theulu (Gratton, 2021).
Wedi dweud hynny, os yw arweinwyr a rheolwyr am gyflawni’r trawsnewid hwn yn llwyddiannus, bydd angen iddynt wneud rhywbeth nad ydynt wedi arfer ei wneud: dylunio trefniadau gweithio hybrid gyda phryderon bodau dynol unigol mewn golwg, yn hytrach na phryderon sefydliadol yn unig.
Yn y fideo canlynol, mae Jacob Morgan yn sôn am yr hyn y mae angen i arweinwyr ei ystyried ynghylch hyblygrwydd yn y gweithle, a sut i reoli disgwyliadau gweithwyr o hyn.
