2.8 Gwytnwch
Yn ôl Lucy Hone (TED, 2019), rydym ni i gyd wedi gorfod ymdopi ag amseroedd anodd, a’r ffordd yr ydym yn ymdrin â nhw yw gwytnwch. Mae Psychology Today yn ei ddiffinio fel hyn:
Resilience is that ineffable quality that allows some people to be knocked down by life and come back stronger than ever. Rather than letting failure overcome them and drain their resolve, they find a way to rise from the ashes.
Diffinnir gwytnwch fel gallu neu dueddiad i addasu a ‘dod yn ôl ar eu traed’ pan mae pethau’n mynd o chwith, a bod yn wydn yw meddu ar y gallu i ddysgu o wneud camgymeriadau a thyfu wedyn.
Pan ddechreuodd pandemig COVID-19 fis Mawrth 2020 a phan orchmynwyd i bobl weithio gartref, cafwyd nifer o enghreifftiau o bobl yn dod yn ôl ar eu traed a ffynnu mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd. Mewn gwirionedd, dechreuwyd busnesau newydd; yn ôl Jones (2021), cafwyd cynnydd o 14% yn nifer y busnesau newydd er gwaethaf y pandemig. Er enghraifft, trodd Bora Kirgiz [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] dudalen, gan fynd o yrrwr tacsi i agor Bona Couple Cafe & Lounge.
Mae’r ymadrodd ‘dod yn ôl ar eich traed’ yn gysyniad diddorol, yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to yn wyneb adfyd, rydym yn codi ar ein traed ac yn dal ati. Dyma fideo byr yn dangos enghraifft glir o hyn lle mae plant ifanc yn ceisio bwrw i lawr tegan: A lesson on resilience.
Gweithgaredd 13 Cryfderau pobl wydn
Cymerwch ychydig funudau i feddwl am rywun rydych chi'n ei adnabod, neu unigolyn adnabyddus, rydych chi'n ystyried ei fod yn wydn. Ystyriwch ym mha ffordd, neu ym mha fath o sefyllfa, mae’r unigolyn dan sylw yn wydn a pha gryfderau mae’n eu dangos.
Pa rai o'r priodweddau canlynol mae’n eu harddangos?
- hyder
- datrys problemau
- agwedd gadarnhaol
- blaengar
- cynllunydd da
- cyfathrebwr da
- yn gyfforddus gyda'i emosiynau
- deallusrwydd.
Pa rai eraill fyddech chi'n eu hychwanegu?
Enw’r unigolyn gwydn | |
Nodweddion |
Datblygu gwytnwch yn eich gyrfa
Enghraifft gyfarwydd arall o fath gwydn o berson yw athletwr. Gwyliwch y fideo byr hwn i weld agwedd Asha Philip, y sbrintwraig fuddugol Brydeinig a chyn-gymnastwraig, tuag at wytnwch: Asha Philip on resilience.
Er na fydd angen i ni i gyd ddangos y lefel hon o wytnwch yn ein bywydau, gallwn ddysgu rhai gwersi o daith Asha. Mae hi'n sôn am bwysigrwydd cael cred pobl eraill, cymryd pethau gam wrth gam, gwytnwch meddwl a gweld newid neu adfyd fel cyfle i ddysgu mwy amdanoch chi'ch hunan. Gellir cymhwyso'r gwersi hynny mewn llawer o sefyllfaoedd gwahanol.
Strategaethau gwytnwch
Mae gan bawb y capasiti i fod yn wydn a rhoddir enghraifft eithafol gan Lucy Hone yn ystod trafodaeth TEDx: The three secrets of resilience people
Mewn gair, disgrifia Hone ei bod wedi colli ei merch 12 oed mewn damwain car, a bod hyn wedi achosi trawma a hollt yn ei bywyd, a bod y gefnogaeth a gafodd ar yr adeg honno wedi gwneud iddi deimlo’n analluog ac fel dioddefwr. Dywedai fod gan bobl wydn dair strategaeth neu gyfrinach:
- derbyn/cydnabod bod y sefyllfa yn rhan o’ch bywyd
- sylw dewisol (canolbwyntio ar y pethau y gallwch eu newid/sydd yn eich cylch dylanwad ac ar y pethau cadarnhaol)
- rheoli’r sefyllfa a bod yn garedig gyda chi’ch hun – meddyliwch ‘a yw’r hyn yr ydych chi’n ei wneud yn gwneud lles neu’n gwneud drwg i chi?’.
A yw gwytnwch yn ein DNA?
Mae edrych ar y nodweddion penodol sy’n galluogi rhai pobl i fod yn fwy gwydn nag eraill yn ein helpu i feddwl pam mae rhai pobl yn dangos graddau uwch o wytnwch nag eraill wrth wynebu sefyllfa debyg.
Ond pam mae unigolion yn datblygu'r nodweddion hyn yn wahanol? Mae datblygiadau mewn ymchwil genetig dros y deng mlynedd diwethaf wedi cysylltu genynnau amrywiol ag amrywiaeth o ymddygiadau cymdeithasol. A yw genynnau hefyd yn gysylltiedig â'n gallu i ymdopi â heriau bywyd?
Gweithgaredd 14 Yn y gwaed?
Gwyliwch y fideo ‘In the blood’ gyda Simon Weston. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad o’r fideo yma.
Mae Weston yn gyn-filwr o Fyddin Prydain a ddaeth yn adnabyddus ledled y DU am ei waith elusennol ar ôl iddo ddioddef anafiadau llosgi difrifol yn ystod Rhyfel y Falkland. Yn y fideo mae'n ymweld â'r Genome Centre yn Llundain i gwrdd â'r seicolegwyr Dr Michael Pluess a Dr Aneta Tunariu ac i weld a oes ganddo'r genyn gwytnwch.
Nodwch sut mae Weston yn esbonio ei allu i fod yn wydn.
Oedd gan y fideo unrhyw negeseuon ehangach i chi?
Er bod y gymuned wyddonol yn dal i fod yn rhanedig ar elfen enetig gwytnwch meddwl, mae seicolegwyr wedi tynnu sylw at bwysigrwydd hyfforddi ein hunain i fod yn fwy gwydn.
Allwch chi ddysgu i fod yn fwy gwydn?
Mae seicolegwyr wedi dadlau ers dros 100 mlynedd bod cymdeithasoli plentyndod cynnar yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae unigolion yn ymwneud ag eraill yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae'r cymdeithasoli hwn hefyd yn cefnogi ein gwytnwch, trwy:
- berthnasau teuluol cryf a chefnogol
- rhwydweithiau cymdeithasol teuluol sy'n ymestyn i'r gymuned
- datblygu sgiliau cyfathrebu da
- y gallu i ddangos empathi at eraill
- cymdeithasgarwch, h.y. hoffter o ddatblygu perthnasoedd cymdeithasol newydd.
Wrth gwrs, mae ein hoffter o berthnasoedd cymdeithasol hefyd yn gysylltiedig â nodweddion ein personoliaeth. Mae rhai pobl yn fwy cymdeithasol nag eraill. Archwilir hyn yn y gweithgaredd nesaf.
Gweithgaredd 15 Cymdeithasgarwch a rhwydweithiau cymdeithasol
Gwyliwch y fideo Resilience: personality a nodwch sut mae'r Athro Ivan Robertson, seicolegydd siartredig, yn esbonio sut mae gwytnwch yn gysylltiedig â'n gallu i ddatblygu perthnasoedd cymdeithasol.
Ystyriwch beth mae ei esboniad yn ei olygu i chi. A allwch chi nodi a allai’r math o bersonoliaeth sydd gennych gael effaith gadarnhaol ar eich gwytnwch? Neu efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd eraill o'i ddatblygu? Gwnewch nodiadau yn y blwch isod.
Efallai y byddwch chi'n meddwl os yw’r nodweddion personoliaeth rydym ni'n cael ein geni â nhw yn chwarae rhan mor allweddol yn ein gwytnwch, na ellir ei ddysgu wedi'r cyfan.
Wedi dweud hynny, mae'r Prif Swyddog Gweithredol Genie Joseph, sylfaenydd ACT RESILIENT, yn anghytuno. Mae’n amlinellu tri math o wytnwch y mae hi wedi’u nodi trwy ei gwaith gyda phersonél milwrol yr Unol Daleithiau a’u teuluoedd (Joseph, 2012). Sef:
- Gwytnwch naturiol – y gwytnwch sydd gennych wrth eich geni. Mae’n ein hamddiffyn ac yn ein hannog i chwarae a dysgu ac archwilio ein byd.
- Gwytnwch addasol – sy’n digwydd pan fydd amgylchiadau heriol yn achosi i chi addasu a thyfu, gan ddod yn gryfach ac yn fwy gwydn oherwydd yr hyn rydych wedi ei ganfod.
- Gwytnwch wedi'i adfer – a elwir hefyd yn wytnwch a ddysgwyd. Mae hyn yn golygu y gallwch ddysgu technegau a all adfer y gwytnwch naturiol a oedd gennym fel plant.
Y goblygiad yma yw, trwy wytnwch addasol ac wedi’i adfer, gallwn yn sicr ddysgu technegau ac adeiladu arferion a fydd yn ein cefnogi i ddatblygu a gwella ein gwytnwch ymhellach.
Un peth y gallwn yn sicr ei wneud i gefnogi ein gwytnwch ein hunain yw meithrin perthnasoedd gofalgar a chefnogol o'n cwmpas.
Yn y clip cynharach soniodd yr Athro Robertson am bwysigrwydd rhwydweithiau cymorth cymdeithasol, neu’r gallu i’w datblygu, o ran helpu gwytnwch. Soniodd Simon Weston hefyd am gefnogaeth ei deulu a’i ffrindiau yn cyfrannu at ei wytnwch. Yn ôl yr American Psychological Association (2014), mae llawer o astudiaethau'n dangos mai'r prif ffactor mewn gwytnwch personol yw cael perthnasoedd gofalgar a chefnogol o fewn y teulu a thu allan. Mae'r perthnasoedd hyn yn creu cariad ac ymddiriedaeth, yn darparu modelau rôl ac yn cynnig anogaeth a sicrwydd. Mae hyn yn helpu wth gryfhau gwytnwch person, yn enwedig ar adegau anodd.
Felly, mewn gair, er bod nodweddion personoliaeth a rhwydweithiau cefnogaeth cryf yn dylanwadu pa mor wydn ydym ni, mae gwytnwch hefyd yn sgil y gellir ei ddysgu a’i ddatblygu.
Byddwch yn archwilio strategaethau ar gyfer datblygu eich gwytnwch eich hun yn ddiweddarach yn y cwrs.
Gwytnwch dros amser
Gweler isod delwedd sy’n dangos gwytnwch unigolyn ffugiol dros amser a sut all amrywio. Mae hyn yn ystyriaeth bwysig, gan y gall eich helpu i weld ei bod hi'n normal i chi deimlo'n fwy neu'n llai gwydn ar wahanol adegau o'ch bywyd.
Gweithgaredd 16 Eich amserlen gwytnwch
Petai rhaid i chi wneud delwedd i gynrychioli’ch amserlen gwytnwch eich hun, sut beth fyddai’r amserlen honno? Sut mae lefel eich gwytnwch wedi’i heffeithio gan bandemig COVID-19 – yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo – neu drwy drosglwyddo i weithio o bell a hybrid?
Ceisiwch dynnu llun o amserlen fel yr enghraifft uchod i ddangos amrywiadau yn eich gwytnwch personol dros amser. Defnyddiwch bin ysgrifennu a phapur neu eich adnodd digidol dewisol.
Gallai hyn ymddangos yn dasg frawychus i ddechrau, felly un ffordd o ddechrau efallai fyddai rhannu'r llinell yn ddegawdau o'ch bywyd. Yna gallwch chi nodi'r pwyntiau lle rydych chi wedi teimlo bod gennych chi fwyaf o reolaeth ar eich bywyd, yn gallu cwrdd â heriau ac ymdrin â nhw. Dilynwch hynny trwy feddwl am y pwyntiau yn eich bywyd lle rydych chi wedi teimlo'n llai gwydn, ac yna unwch y pwyntiau i greu eich llinell amser gwytnwch.
Defnyddiwch yr amserlen i fyfyrio ar:
- amser pan fyddwch wedi symud o deimlo'n ddiymadferth am sefyllfa i deimlad o reolaeth ac optimistiaeth am y dyfodol.
- y perthnasoedd neu'r amgylchiadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i chi – er enghraifft, efallai fod gweithio o bell wedi eich gwahanu rhag y rhwydweithiau cefnogaeth y cawsoch gyda chydweithwyr, neu fel arall, efallai ei fod wedi eich cyflwyno chi i rwydweithiau cymorth ac adnoddau digidol newydd nad oedd gennych o’r blaen.
- a oes unrhyw beth o'ch profiad yn y gorffennol y dylech ei ail-gyflwyno yn eich bywyd i wella'ch gwytnwch nawr.