Casgliad
Yn y cwrs hwn, byddwch yn treulio amser yn meddwl pwy ydych chi fel arweinydd a beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn eich sefydliad yn y dyfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y ffordd o weithio hybrid. Rydych hefyd wedi archwilio’r hyn sydd angen ei greu neu ei ddatblygu o ran yr amgylchedd a’r amodau fel bod eich cyflogeion yn teimlo y gallant ddod â’r fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain i’r gwaith a’u galluogi i ffynnu yn y ffordd o weithio newydd hon.
Dylech nawr allu:
- egluro rhai diffiniadau o weithio hybrid ac adnabod y camau sydd eu hangen i greu dealltwriaeth gyffredin o’r term hwn yn eich amgylchedd gwaith
- dadansoddi’r effaith mae gweithio hybrid yn ei chael ar gynhyrchedd a disgrifio’r amgylchedd delfrydol ar gyfer gweithio hybrid
- cymharu diffiniadau traddodiadol o ddiwylliant, mynegi sut mae’r rhain yn wahanol i ddiwylliant hybrid ac adnabod ffyrdd o dyfu a datblygu diwylliant cymysg
- hunan-fyfyrio ac adnabod sut mae dod yn hunan-ymwybodol yn rôl arweinydd hybrid yn y byd hybrid ar ôl y pandemig, gan gynnwys sut mae dod yn fwy gwydn a dod yn wrandäwr gweithredol
- egluro beth yw atebolrwydd a gwerthfawrogi sut mae creu atebolrwydd mewn byd hybrid
- dadansoddi pwysigrwydd empathi fel arweinydd hybrid a’i wahaniaethu rhag cydymdeimlad.
Beth nesaf?
Defnyddiwch y fframweithiau a’r technegau a gyflwynwyd drwy gydol y cwrs ac sy’n briodol i’ch cyd-destun chi i weithio gyda’ch timau a datblygu’ch hun fel arweinydd hybrid, a/neu eu rhannu gydag arweinwyr hybrid eraill yn eich sefydliad.
Byddwch chi’n sylwi bod treulio amser i gamu’n ôl yn rheolaidd a myfyrio ar eich arferion a’ch dulliau gweithredu fel arweinydd hybrid yn eich helpu chi i ailfframio eich meddylfryd presennol a chydnabod lle allech fabwysiadu meddylfryd twf a allai helpu gydag unrhyw heriau sydd i ddod.
Efallai yr hoffech edrych ar lwyfannau fel LinkedIn i gael y diweddaraf mewn perthynas â’r safbwyntiau cyfredol ynghylch gweithio hybrid, neu archwilio cyrsiau OpenLearn ar agweddau amrywiol ar ddatblygiad proffesiynol.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , efallai yr hoffech ei archwilio ymhellach.