1 Y normal newydd
Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi’r cyfle i arbrofi gyda ffyrdd hyblyg o weithio, ac rydym yn dal i fod ar daith i ddeall beth mae hybrid yn ei olygu ac i (ail)ddylunio’r ffyrdd gorau o weithio lle nad yw 9–5 mewn swyddfa yn cael ei ystyried y norm bellach.
Yn ôl Sage (2022) gweithio hybrid yw’r ffordd arferol newydd ac mae’r pandemig yn gyfrifol am gyflymu’r newid byd-eang mwyaf yn y byd gwaith ers canrif (Gratton, 2022). Mae nifer o newidiadau yn digwydd mewn busnes a thrawsnewid mawr yn mynd rhagddo, er enghraifft mae awtomatiaeth yn newid diwydiannau megis archwilio, fel y gwelir yn Deloitte, ac mae hyn yn newid y rolau sydd eu hangen ar y diwydiannau hynny. Erbyn hyn rydym yn byw yn hirach nag erioed ac yn ymddeol yn hwyrach, ac mae cyfiawnder, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysicach nag erioed. Teg yw dweud nad yw anghenion a dyheadau cenhedlaeth ein rhieni o ran gwaith yn cyd-fynd â’r hyn yr ydym ni ei eisiau gan waith nawr, ac mae gofyn i fusnesau ymateb yn gyflym i hyn.
Yn ôl Gartner [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (ac fel y gwelir yn Ffigwr 1 isod), mae 82% o arweinwyr cwmnïau yn bwriadu parhau i gynnig gweithio o bell ar ôl y pandemig.
Wedi dweud hynny, cyhoeddwyd adroddiad ganCisco/ Webexyn 2021 a ddatganodd bod oes y gweithiwr hybrid wedi ein cyrraedd (Dimensional Research, 2021) a bod 68% o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg eisoes yn gweithio gartref ac o’r swyddfa. Nid yw’n syndod bod cynifer o bobl wedi dweud y byddant yn gadael sefydliad pe na fyddai opsiwn ar gyfer gweithio hybrid.
Wedi dweud hynny, adnabu’r adroddiad bod pobl yn bryderus ynghylch adnoddau a thimau digidol, bod yr angen i gydweithio’n effeithiol yn dal i fod yn allweddol, a bod angen datrysiadau cydweithio uwch.
Rydym yn yr awr dyngedfennol – a ydym yn dychwelyd i’r hen ffyrdd o weithio, neu a ydym yn manteisio ar y cyfle hwn i drawsnewid ac ailddylunio ein hamgylchedd gwaith? Bydd y cwrs hwn yn eich arwain drwy becyn adnoddau o bosibiliadau, ond nid yw’n cynnig ‘un datrysiad i bawb’. Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei droedio, fel arweinydd mae angen i chi feddu ar wybodaeth yn eich cylch chi eich hunan, y gallu i fagu empathi a dealltwriaeth gyda’ch timau a datblygu eu galluoedd digidol. Bydd angen i chi ddylunio, profi, ailadrodd a dal ati i greu ffyrdd newydd o weithio sy’n addas i’ch cyd-destun a’ch rhanddeiliaid.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch annog chi i ystyried pwy ydych chi fel arweinydd gan weithio gyda thimau hybrid, a sut ydych yn gweithio gyda’r timau hynny. Cewch gyfleoedd drwy gydol y cwrs i fyfyrio a datblygu camau gweithredu i’ch galluogi chi i gryfhau eich sgiliau fel arweinydd hybrid.
Gweithgaredd 1 Gweithio hybrid yn 2022
Gwyliwch y fideo What hybrid working will look like in 2022 a myfyriwch ar unrhyw feddyliau neu bryderon sydd gennych chi fel arweinydd yn ymwneud â gweithio hybrid gyda’ch tîm/timau.
Sut mae dewisiadau merched a phobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig a nodwyd yn y fideo yn cyd-fynd ag amrywiaeth eich sefydliad?
Sut mae ailddylunio ffyrdd o weithio i gynnwys opsiynau hybrid yn gwneud i chi deimlo go iawn? A ydych chi’n ymwybodol eich bod yn dangos tuedd y naill ffordd neu’r llall?
Cewch gyfle i ail-ymweld â’r myfyrdodau cychwynnol hyn yn hwyrach ymlaen yn y cwrs, i weld a yw eich safbwyntiau wedi newid.
Os hoffech chi, ychwanegwch eich nodiadau yn y blwch testun isod.
Trafodaeth
Cyhoeddwyd y fideo hwn am y tro cyntaf fis Rhagfyr 2021. Pa mor fanwl gywir yw ei ragfynegiadau yn eich sefydliad – neu’ch sector yn fwy eang?