Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.6 Diwylliant hybrid: sut beth yw ‘gwych’?

Mae diwylliant hybrid yn datblygu mewn amgylchedd sy’n cyfuno trefniadau gwaith rhithiol ac wyneb yn wyneb. Er bod newidiadau yn y byd gwaith wedi dominyddu ein meddyliau ers y rhai blynyddoedd diwethaf (ac am reswm da, gan fod gwaith yn rhan enfawr o’n bywydau), nid gweithleoedd yw’r unig amgylcheddau sy’n ystyried beth mae’n ei olygu i gael diwylliant hybrid (Cooks-Campbell, 2022).

Yr hyn sy’n ymddangos o fod yn amlwg yn y sector Sefydliadau Addysg Uwch yw bod y trosglwyddiad cyflym i fod ar-lein fel ymateb di-feddwl i’r pandemig wedi achosi cryn dipyn o densiwn diwylliannol i staff a myfyrwyr.

Yn ôl erthygl gan Stanier et al. (2022), bydd diwylliant hybrid yn gweithio dim ond os ydych chi’n trin pawb fel eu bod yn gweithio o bell. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael yr un wybodaeth, adnoddau a chyfleoedd i lwyddo, ac nid yw’n wahanol yn ôl lle maent yn eistedd a pha un ai a ydynt yn gweithio wrth ddesg yn y swyddfa, yn gweithio wrth sawl gweithfan mewn ardal gydweithio, neu gartref. Maen nhw’n teimlo bod diwylliant hybrid llwyddiannus angen gweithredu cyson gan arweinwyr yn y pum maes a restrir isod, ac fel arweinydd, bydd angen i chi ofyn i chi eich hun rhai o’r cwestiynau ym mhob maes.

  • Manteisio ar gyfathrebu anghydamserol – A oes gan eich cyflogeion yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyfathrebu? Os nad ydynt, mae angen i chi newid eich cyfnewidiadau cydamserol i rai anghydamserol, a gellir gwneud hynny drwy symud i ohebiaethau ysgrifenedig neu wedi’u recordio. A oes angen i chi gael sgwrs ddyddiol? A oes rhai pobl nad ydynt yn gallu bod yn bresennol? Os felly, gallech greu sianel sgwrsio gyda diweddariadau byr neu ddarparu fideo wedi’i recordio yn lle cyfarfod byw ar draws y cwmni. Os oes gwir angen am gyfathrebu byw, sicrhewch eich bod yn cynnig recordiad a thrawsgrifiad ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu mynychu.
  • Gwneud ffiniau cyfathrebu yn glir – A yw eich cyflogeion yn gwybod pa bryd a sut mae cysylltu â’i gilydd? A yw eich cyflogeion presennol yn digio pan gânt eu hamharu wrth eu gwaith? Os felly, dechreuwch greu rheolau ymgysylltu ar gyfer pob llwyfan. A ydych yn disgwyl i negeseuon gwib gael eu hateb yn syth? Beth am negeseuon e-bost? A yw cyfarfodydd yn opsiynol neu’n orfodol? Drwy wneud hyn yn holloll glir a’i wneud yn rhan o’ch diwylliant, gall lleddfu gorbryder ac atal eich cyflogeion rhag teimlo eu bod wedi colli allan. A yw eich cyflogeion yn datgan eu horiau gwaith yn glir gyda’i gilydd?
  • Hyrwyddo dogfennaeth ac arteffactau – A yw eich cyflogeion yn gallu dod o hyd i gynnwys a gwybodaeth yn rhwydd? A ydych chi’n defnyddio adnoddau cydweithio i alluogi cyflogeion i gydweithio o bell mewn amser real a gwneud sylwadau ar ddogfennaeth? Os nad ydych, dechreuwch adnabod adnoddau a thechnoleg sy’n hwyluso hyn, gan y gall hyn leihau’r amser sy’n cael ei wastraffu yn dyblygu, a chynyddu morâl a theimladau o berchnogaeth ymhlith cyflogeion, yn ôl Stanier et al. (2022).
  • Darlledu gohebiaeth – Un peth yr oedd cyflogeion yn gweld ei eisiau yn ystod y cyfnod clo oedd y gallu i sgwrsio a chael yr hyn mae rhai yn eu galw’n sgyrsiau ‘ffynnon ddŵr’. Efallai fod sgyrsiau un i un yn bosibl mewn swyddfa fach, ond mae’n anodd iawn eu cael ar raddfa fawr (Stanier et al., 2022) ac nid ydynt yn bosibl mewn diwylliant hybrid. Yn hytrach, mae Stanier et al. yn awgrymu i arweinwyr ddatblygu diwylliant o negeseuon ysgrifenedig neu wedi’u recordio i gyfleu calon y cwmni. Gellir cyflawni hyn drwy gylchlythyrau rheolaidd neu negeseuon wythnosol wedi’u recordio. Ar raddfa lai, gellid annog timau i hunan-reoli’r math hwn o gyfathrebu, rhannu llwyddiannau a chyflawniadau a gweithio gyda thimau eraill i roi diweddariadau a rhannu eu gwaith: Mae cwmni sy’n rhannu yn annog rhagor o rannu.
  • Darparu’r adnoddau i lwyddo – A oes gennych chi’r adnoddau digidol sy’n galluogi’ch cyflogeion i weithio’n effeithiol? A oes gennych chi lu o adnoddau ar gael, ond dim un sy’n cael ei ddefnyddio’n eang? A oes gan eich cyflogeion amgylchedd gweithio diogel a chyfforddus yn y cartref ac yn y swyddfa? Yn ystod y pandemig, roedd rhaid i nifer o gyflogeion addasu gyda’r hyn yr oedd ganddynt, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu gweithio ar eu soffa, eu gwely neu mewn cegin deuluol brysur. Cyfrifoldeb y cwmni yw sicrhau bod cyflogeion yn llwyddiannus lle bynnag y maent.

Yn y fideo canlynol, mae cyfranwyr yn rhannu dealltwriaethau ar gyfer datblygu gwerthoedd cyffredin a diwylliannau sefydliadol cynhwys.

Download this video clip.Video player: hyb_2_2022_sept103_building_a_good_culture_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).