Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Paratoi aseiniadau

Introduction

You can experience this free course as it was originally designed on OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , the home of free learning from The Open University: www.open.edu/ openlearn/ free-courses.

Paratoi aseiniadau (Preparing assignments)

www.open.edu/ openlearn/ languages/ welsh/ paratoi-aseiniadau-preparing-assignments/ content-section-0?utm_source=amazon&utm_campaign=ou&utm_medium=ebook

Mae cyrsiau prifysgolion yn amrywio o ran y mathau o aseiniadau sy’n ofynnol. Gellid gofyn i chi gwblhau unrhyw rai o’r canlynol.

  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Aseiniadau llafar
  • Aseiniadau atebion byr
  • Aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur
  • Asesiadau ar ddiwedd y cwrs

Ceir disgrifiad byr o bob un o’r rhain isod ond bydd deunyddiau eich cwrs yn rhoi syniad llawer gwell i chi o’r hyn sy’n ofynnol gennych.

‘Dwi’n teimlo na alla’i ennill. Dwi’n dangos fy ngwendidau.’

Efallai y byddwch yn teimlo ar goll pan gewch eich aseiniad cyntaf ond peidiwch â phoeni, nid oes disgwyl i chi wneud gwaith perffaith o’r cychwyn cyntaf. Bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar a gallwch ddisgwyl i’ch sgiliau wella dros amser.