7 Dewis arddull ysgrifennu
You can experience this free course as it was originally designed on OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , the home of free learning from The Open University: www.open.edu/ openlearn/ free-courses.
Pan fyddwch yn ysgrifennu mewn arddull academaidd, yr un yw’r diben bob tro: cymryd pwnc a chyflwyno syniadau a rhesymau sy’n ei egluro, gan ddefnyddio geiriau, dyfyniadau, ystadegau, enghreifftiau ymarferol a dynnir o arbrofion neu ddiagramau.
Wrth ysgrifennu mewn arddull academaidd mae angen iddo swnio’n fwy ffurfiol, neu amhersonol, na’r rhan fwyaf o arddulliau ysgrifennu eraill. Fodd bynnag, mae disgyblaethau academaidd yn amrywio yn y modd y defnyddir iaith. Felly gall yr hyn a ddisgwylir gennych yn eich gwaith ysgrifennu wahaniaethu yn dibynnu ar beth rydych yn ei wneud, er enghraifft, cwrs o ddisgyblaeth y celfyddydau neu wyddoniaeth. Y canllaw gorau i’r modd y dylech fynegi eich hun mewn aseiniad yw deunyddiau’r cwrs eu hunain. Edrychwch ar eich llyfrau testun a llawlyfr eich aseiniad. [Y canllaw gorau i’r modd y dylech fynegi eich hun mewn aseiniad yw deunyddiau’r cwrs eu hunain... Darllenwch yr adborth gan eich tiwtor ar eich aseiniadau blaenorol.]
‘Dwi’n mwynhau ysgrifennu, ond mae’n ymddangos bod ‘dirgeledd i’r math hwn o ysgrifennu mewn arddull ‘academaidd’ na alla i ei amgyffred.’
Darllenwch yr adborth gan eich tiwtor ar eich aseiniadau blaenorol. Bydd eich tiwtoriaid yn rhoi arweiniaid i chi ar sut i fireinio eich sgiliau ysgrifennu ar gyfer eich aseiniad nesaf.
Mewn rhai achosion o ysgrifennu ar gyfer gwaith academaidd mae mynegi eich hun yn y person cyntaf yn dderbyniol (e.e. ‘Credaf fod...’). Fodd bynnag, gan amlaf mae’r stad oddefol (e.e., ‘credir bod...’) yn well gan ei bod yn fwy amhersonol a gwrthrychol. [Ysgrifennwch yn gryno drwy hepgor geiriau diangen]
Blwch 4
Awgrymiadau ar ddull ysgrifennu a mynegi eich hun yn dda:
- Ceisiwch osgoi iaith lafar ac idiomatig.
- Dysgwch osgoi rhagenwau personol megis ‘ni’, ‘chi’.
- Ceisiwch ddefnyddio iaith wrthrychol. Mae’r canlynol yn ymadroddion defnyddiol: ‘Gellir dadlau bod ...’, yn hytrach na ‘Credaf fod’.
- Ysgrifennwch yn gryno drwy hepgor geiriau diangen, er enghraifft: ‘hollol angenrheidiol’ (dywedwch ‘angenrheidiol’); ‘wedi’u cyfuno gyda’i gilydd’ (dywedwch ‘gyda’i gilydd’); ‘Y mwyafrif helaeth’ (dywedwch ‘y mwyafrif’ neu hyd yn oed ‘y rhan fwyaf’).
- Byddwch yn ymwybodol o derminoleg arbenigol. Weithiau defnyddir geiriau mewn ffyrdd gwahanol a manwl gywir, er enghraifft, defnyddir y geiriau ‘llygoden’ a ‘ffenestr’ mewn ffordd benodol ym maes cyfrifiadura. Mewn gwyddoniaeth, nid yw ‘toddi’ yn golygu’r un peth â ‘hydoddi’.
- Defnyddiwch thesawrws i’ch helpu i osgoi defnyddio’r ungair yn rhy aml.
- Gwnewch yn siŵr nad yw eich brawddegau yn rhy hir, neu fel arall bydd y darllenwr yn debygol o golli llinyn eich dadl. Dylai fod un syniad ar gyfer pob brawddeg. Os yw brawddeg yn rhy hir efallai eich bod yn ceisio cyfleu gormod o wybodaeth ynddi.
- Defnyddiwch ddyfynodau o amgylch geiriau neu ymadroddion a ddefnyddiwch mewn ffordd anarferol neu ddadleuol.