Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Ysgrifennu paragraffau

You can experience this free course as it was originally designed on OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , the home of free learning from The Open University: www.open.edu/ openlearn/ free-courses.

Paratoi aseiniadau (Preparing assignments)

www.open.edu/ openlearn/ languages/ welsh/ paratoi-aseiniadau-preparing-assignments/ content-section-0?utm_source=amazon&utm_campaign=ou&utm_medium=ebook

Mae paragraffau yn rhannu’r ysgrifennu yn bynciau neu brif bwyntiau. Dylai pob paragraff gynnwys un prif syniad neu bwnc a dylech fod yn gallu nodi beth ydyw. Dylai’r brawddegau mewn paragraff gyfrannu pwyntiau unigol at y prif syniad hwnnw. Er y bydd yn anodd i chi wybod ar y dechrau efallai ble i ddechrau paragraff newydd, byddwch yn gwella ymhen amser.

Mae dechrau pob paragraff newydd yn nodi newid mewn canolbwynt. Weithiau mae paragraffau yn dechrau gyda ‘brawddeg pwnc’ i gyflwyno’r canolbwynt newydd, gyda brawddegau dilynol wedyn sy’n ehangu ar y pwnc. Fodd bynnag, weithiau dim ond ar ôl sawl brawddeg y daw pwnc y paragraff newydd yn glir. [Mae paragraffau yn rhannu’r ysgrifennu yn bynciau neu brif bwyntiau.]

Gall paragraffau helpu’r darllenwr i nodi datblygiad eich dadl. Pan fydd pob paragraff yn cynnwys prif syniad newydd, bydd gan y darllenwr gliw gweledol o ran pryd y mae eich dadl yn symud i’r cam nesaf. [Gall paragraffau helpu’r darllenwr i nodi datblygiad eich dadl...bydd gan y darllenwr gliw gweledol o ran pryd y mae eich dadl yn symud i’r cam nesaf.]

Mae gwallau cyffredin yn cynnwys gwneud pob brawddeg yn baragraff newydd neu, ar ben arall y sbectrwm, anghofio cynnwys unrhyw baragraff o gwbl wrth ysgrifennu. Mae paragraffu gwael yn ei gwneud yn anodd iawn i’ch darllenwr ddilyn eich dadl (gweler Ffigur 4).

Ffigur 4 a) os na fyddwch yn rhoi unrhyw baragraffau yn eich aseiniad bydd eich aseiniad yn edrych fel un bloc hir, parhaus o destun, sy’n ei gwneud yn anodd iawn i chi ei ddarllen. b) Os byddwch yn gwneud pob brawddeg yn baragraff newydd gall hyn wneud i’ch aseiniad edrych a darllen fel rhestr. c) Mae aseiniad wedi ei strwythuro’n dda gyda pharagraffau o faint rhesymol yn amlwg ar unwaith i’r llygad.

Os cewch anhawster i wybod ble i ddechrau paragraff newydd, ceisiwch ddefnyddio mapiau meddwl i helpu i nodi’r rhaniadau rhesymegol yn eich dadl - gall y rhain eich helpu i wahanu eich syniadau oddi wrth ei gilydd. Gallai gwneud nodiadau cryno ar ymylon eich copi drafft eich helpu hefyd i benderfynu ble mae un syniad yn gorffen a’r llall yn dechrau.