2.5 Gwirio
Ar ôl i chi orffen drafftio’r cynnwys dylech wirio eich bod wedi cynnwys eich enw a’ch rhif Adnabod Personol ar bob tudalen a bod teitl yr aseiniad neu’r traethawd wedi ei gynnwys. Cyn i chi argraffu eich copi glân terfynol dylech hefyd sicrhau bod y fformadu cywir yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, gofod 1.5 rhwng y llinellau (darllenwch ddeunyddiau eich cwrs am ragor o fanylion) a bod y tudalennau wedi eu rhifo. [Dylech cynnwys eich enw a’ch rhif Adnabod Personol ar bob tudalen a bod teitl yr aseiniad neu’r traethawd wedi ei gynnwys.]
Gall sicrhau bod y gramadeg, yr atalnodi a’r sillafu yn gywir eich helpu i wella eich marciau, felly defnyddiwch y rhestr wirio prawfddarllen yn y llyfryn hwn fel canllaw.
Er bod y cam hwn yn bwysig ni ddylech dreulio gormod o amser yn gwirio. Cofiwch adael iddo fynd!