2.4.2 Ail ddrafft
Ar ôl i chi orffen eich drafft cyntaf efallai y gwelwch fod angen i chi wneud llawer o waith pellach arno. Wrth i chi fynd drwy gam yr ail ddrafft bydd angen i chi wirio trefn resymegol eich dadl. Efallai y gwelwch fod angen i chi newid trefn rhai o’r pwyntiau. Fodd bynnag, gwyliwch nad ydych yn gwneud camgymeriadau wrth wneud hyn: er bod torri a phastio mewn prosesydd geiriau yn offeryn defnyddiol mae’n hawdd iawn anwybyddu problemau gyda gramadeg a rhesymeg. [Mae torri a phastio mewn prosesydd geiriau yn offeryn defnyddiol mae’n hawdd iawn anwybyddu problemau gyda gramadeg a rhesymeg.]
Ar y cam hwn dylech hefyd fynd drwy eich cyfeiriadau er mwyn gwneud yn siŵr bod manylion pob dyfyniad neu dystiolaeth ategol arall gennych ac nad ydych wedi anghofio unrhyw beth.
I gloi, rhan hanfodol o’r broses ddrafftio yw gwybod pryd i ddod i ben! Mae’n hawdd iawn parhau i olygu eich aseiniad heb weld llawer o fudd.