8.3 Eich tiwtor a’ch swyddfa ranbarthol
Bydd adborth ar eich aseiniadau yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu. Darllenwch y sylwadau yn ofalus. Byddant yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau wrth gyfleu eich syniadau. Cymerwch amser i gyfeirio’n ôl at yr hyn a wnaethoch yng ngoleuni’r adborth ac edrychwch i weld a allwch gymhwyso’r cyngor hwnnw i’r aseiniad nesaf. Peidiwch â cholli marciau yn ddiangen drwy ailadrodd gwallau y gallwch eu cywiro’n hawdd. Os nad ydych yn siŵr ynghylch unrhyw un o’r sylwadau, neu sut yr oeddent yn effeithio ar eich marciau, gofynnwch i’ch tiwtor am eglurhad. Gallech hefyd gysylltu â’r tîm Cymorth i Ddysgwyr yn eich canolfan ranbarthol; gall gynnig gweithdai sgiliau dysgu neu hyd yn oed sesiynau unigol i’ch helpu i wella. [Bydd adborth ar eich aseiniadau yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu.]