Efallai y byddwch yn teimlo ar goll pan gewch eich aseiniad cyntaf ond peidiwch â phoeni, nid oes disgwyl i chi wneud gwaith perffaith o'r cychwyn cyntaf. Nid oes un ffordd gywir o ysgrifennu aseiniad. Fodd bynnag, mae rhai egwyddorion a phrosesau cyffredin a fydd yn eich helpu i gadw ar y trywydd cywir wrth ei lunio. Yn yr uned hon byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu eich aseiniadau’n effeithiol.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, byddwch:
wedi dysgu am y mathau gwahanol o aseiniad, gan gynnwys aseiniadau llafar, aseiniadau atebion byr ac aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur
yn deall sut i gynllunio a gwirio eich aseiniadau
wedi datblygu sgiliau er mwyn deall cwestiynau aseiniadau
wedi dysgu sut i ysgrifennu cyflwyniadau a chasgliadau effeithiol
wedi dysgu sut i ysgrifennu a datblygu paragraffau
yn deall sut i aralleirio, dyfynnu a chyfeirio yn eich aseiniad
wedi dysgu sut i ddewis arddull ysgrifennu briodol
wedi cael rhai awgrymiadau i helpu i wella eich Saesneg ysgrifenedig.