1.4 Aseiniadau atebion byr
[Efallai y bydd yn ymddangos yn haws rhoi atebion byr na thraethodau hir, ond mae’r un mor bwysig darllen y cwestiwn yn ofalus ac ystyried y geiriau proses.] Rhennir yr aseiniadau hyn, neu rannau o’r aseiniadau, yn sawl adran, y mae angen ateb byr a chryno ar gyfer pob un. Gallai’r ateb fod rhwng 30 gair a 500 o eiriau.
Efallai y bydd yn ymddangos yn haws rhoi atebion byr na thraethodau hir, ond mae’r un mor bwysig darllen y cwestiwn yn ofalus ac ystyried y geiriau proses (gweler Adran 3.2). Mae hefyd yn rhy hawdd gwyro oddi wrth y pwnc dan sylw, a mynd dros derfynau geiriau drwy gynnwys gwybodaeth amherthnasol. Cofiwch fod yn gryno, peidio â gwyro oddi wrth y pwnc dan sylw, a chadw o fewn y terfyn geiriau.
Defnyddir diagramau, tablau a graffiau yn aml mewn aseiniadau ysgrifenedig a gall y rhain fod yn ffordd ddefnyddiol a lliwgar o gyflwyno gwybodaeth. Gallant hefyd eich helpu i gadw at y terfyn geiriau.