2.3 Trefnu beth i’w wneud
Wrth i chi gasglu eich nodiadau a’r deunyddiau perthnasol ar gyfer y cwrs bydd angen i chi wneud penderfyniadau ynghylch pa bynciau a thystiolaeth rydych am eu defnyddio yn eich aseiniad. Os bydd angen i chi gynnwys dyfyniadau a thystiolaeth yna gwnewch nodyn o’r ffynonellau y maent yn dod ohonynt (e.e., llyfrau neu erthyglau) fel y gallwch lunio eich adran gyfeirio yn haws. [Ceisiwch lunio rhestr neu ddefnyddio map meddwl i drefnu eich deunydd.]
Pan fyddwch yn barod i fanylu ar yr hyn rydych am ysgrifennu yn ei gylch, ceisiwch lunio rhestr neu ddefnyddio map meddwl i drefnu eich deunydd yn gynllun. Mae’r broses hon yn eich helpu i wneud dewisiadau am yr hyn sydd angen ei gynnwys, beth nad oes angen ei gynnwys ac ym mha drefn y dylid rhoi’r pwyntiau. Mae cynlluniau yn eich helpu i gadw at y cwestiwn. Ceisiwch gymharu eich cynllun â thasg yr aseiniad i weld a ydych yn mynd i’r cyfeiriad cywir o hyd. Mae cynlluniau hefyd yn gwneud eich proses ddrafftio yn haws gan nad oes angen i chi gadw popeth yn eich pen: yn hytrach gallwch ei ysgrifennu yn eich cynllun (gweler Ffigur 2). [Pan feddyliwch am syniadau ar gyfer eich aseiniad, peidiwch â dal eich hun yn ôl. Rhowch y rhyddid i chi’ch hun nodi’r holl eiriau, ymadroddion, enwau a dyddiadau a ddaw i’ch meddwl.]
Pan feddyliwch am syniadau ar gyfer eich aseiniad, peidiwch â dal eich hun yn ôl. Rhowch y rhyddid i chi’ch hun nodi’r holl eiriau, ymadroddion, enwau a dyddiadau a ddaw i’ch meddwl. Gallwch roi llinell drwyddynt yn nes ymlaen os newidiwch eich meddwl ynghylch pa mor berthnasol ydynt.