5.1 Geiriau cyswllt
Mae geiriau cyswllt yn helpu i wneud i’ch dadl lifo, a phan fyddwch yn gwybod ble mae eich paragraffau yn dechrau ac yn gorffen, byddant yn eich helpu i gysylltu’r syniadau hynny a chreu un cyfanwaith ystyrlon. [Mae paragraffau yn rhannu’r ysgrifennu yn bynciau neu brif bwyntiau.]
Mae geiriau cyswllt yn atgoffa’r darllenwr o’r llinyn hyd yma ac yn cyfeirio at yr hyn sydd i ddod yn nes ymlaen (gweler Ffigur 5). Gellir eu defnyddio i
- gysylltu syniadau mewn brawddeg
- cysylltu brawddegau
- cysylltu paragraffau.
Ceisiwch ddefnyddio rhai o’r geiriau cyswllt canlynol yn eich aseiniad nesaf.
I ychwanegu pwynt | I gyferbynnu dau bwynt | I nodi canlyniadau |
ac … | ond… | oherwydd … |
hefyd … | Fodd bynnag … | am ... |
Yn ogystal … | er … | gan ... |
Yn yr un modd … | Ar y naill law ... | Felly … |
Nid yn unig.... ond hefyd.... | ar y llaw arall ... | O ganlyniad … |
Ymhellach ... | Eto … | O’r herwydd ... |
At hynny ... | Serch hynny … | |
I roi enghraifft | I symud ymlaen i’r pwynt nesaf | I grynhoi |
er enghraifft … | … | Yn olaf … |
hynny yw ... | Yna | I gloi… |
sef ... | Ar ôl hyn/hynny … | Y casgliad felly yw ... |
Wedyn ... | I grynhoi... | |