Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Aralleirio, dyfynnu a chyfeirio

[Pryd bynnag y byddwch yn cyfeirio at gyhoeddiad, syniad neu ddamcaniaeth rhywun arall, rhaid i chi gydnabod ffynhonnell y deunydd..] Pryd bynnag y byddwch yn cyfeirio at gyhoeddiad, syniad neu ddamcaniaeth rhywun arall, rhaid i chi gydnabod ffynhonnell y deunydd. Yn eich aseiniadau, disgwylir i chi fel arfer gynnwys gwybodaeth a syniadau o lyfrau cwrs y Brifysgol Agored. NI ddylech byth â gadael i’r darllenwr feddwl eich bod yn hawlio’r syniad neu’r wybodaeth fel eich un chi. Os na fyddwch yn cydnabod y ffynhonnell, ac yn enwedig os byddwch yn copïo’r union eiriau, mae perygl y cewch eich cyhuddo o lên-ladrad.

Cewch wybodaeth fel arfer am osgoi llên-ladrad a’r dull cyfeirio a ffafrir gan eich cwrs yng nghanllawiau eich aseiniad a anfonir gyda deunyddiau eich cwrs.