Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.6 Darllen deunydd cymhleth

O bryd i’w gilydd byddwch yn dod ar draws deunydd cwrs sy’n gymhleth. Peidiwch â mynd i banig os bydd hyn yn digwydd. Dylid ond disgwyl ar lefel Prifysgol y byddwch, o bosibl, yn cael anhawster i ddeall rhywfaint o’r testun. Mae strategaethau y gallwch eu mabwysiadu i’ch helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon. [Peidiwch â rhuthro’n syth i ddarllen y deunydd. Edrychwch yn gyflym drwy’r deunydd i gael syniad o strwythur y darn.]

  • Peidiwch â rhuthro’n syth i ddarllen y deunydd a cheisio deall yr ystyr. Camwch yn ôl a gofynnwch ambell i gwestiwn syml yn gyntaf. Edrychwch yn gyflym drwy’r deunydd i gael syniad o strwythur y darn. A yw’r penawdau a’r is-benawdau yn nodi cyfeiriad y testun? A oes unrhyw grynodebau defnyddiol? A oes unrhyw ddarluniau sy’n helpu i egluro beth a olygir gan y testun, megis diagramau neu dablau?
  • Ceisiwch nodi’r anhawster drwy ddadansoddi’r hyn y mae’r testun yn ymdrin ag ef - er enghraifft, pa agwedd benodol ar bwnc y mae’n canolbwyntio arni a beth y mae wedi ei hepgor? Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfr arall sy’n ymdrin â’r pwnc hwn a allai ei egluro mewn modd a fydd yn eich helpu i’w ddeall.
  • Defnyddiwch eiriadur cyffredinol da ac, os gallwch ddod o hyd i un, geiriadur arbenigol ar gyfer eich disgyblaeth. Mae rhai geiriaduron electronig defnyddiol ar gael o wefan llyfrgell arlein y Brifysgol Agored (http://library.open.ac.uk/). Mae geiriaduron arbenigol yn ymchwilio i eirfa eich pwnc ac yn canolbwyntio ar gysyniadau, damcaniaethau a phobl sy’n bwysig (er enghraifft, bydd gan eiriadur gwyddorau cymdeithasol gofnod ar Michel Foucault). Nid ydynt yn syml yn rhoi cyfystyron geiriau ond gallant ymchwilio i derm, ymadrodd neu gysyniad yn llawnach.
  • Ysgrifennwch yr hyn rydych yn ei ddeall. Weithiau gall bwlch gael ei lenwi drwy gasglu ynghyd yr hyn rydych yn ei ddeall. Ceisiwch ddefnyddio’r dechneg ‘aros-adolygu’ o ddarllen (gweler Adran 2.1) lle y byddwch yn darllen cwpl o baragraffau ar y tro cyn stopio ac ysgrifennu nodiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr eich bod yn deall y deunydd, mae ceisio ysgrifennu’r hyn y credwch y mae rhywun arall yn ceisio ei ddweud weithiau yn ffordd dda o ddeall dadl anodd.
  • Peidiwch ag ildio yn rhy fuan. Os cariwch ymlaen i ddarllen, efallai y dewch ar draws rhywbeth sy’n eich helpu i ddeall y testun cyffredinol. Efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn na allwch ddeall rhywbeth ar y pryd ond y gallwch ddychwelyd ato yn nes ymlaen, ar ôl i chi ddeall pynciau cysylltiedig. [Os cariwch ymlaen i ddarllen, efallai y dewch ar draws rhywbeth sy’n eich helpu i ddeall y testun cyffredinol.]
  • Pan fydd popeth arall yn methu, cofiwch bob tro y gallwch ofyn i rywun am help: bydd myfyriwr arall neu eich tiwtor neu gynghorydd astudio yn ceisio ei egluro wrthych. Mae fforymau ar-lein yn aml yn ffordd ddefnyddiol o gael help ac efallai y gwelwch fod rhywun arall wedi codi’r cwestiwn yno o’r blaen. [Mae fforymau arlein yn aml yn ffordd ddefnyddiol o gael help]