2 Pam gwneud nodiadau?
Gall gwneud nodiadau gyfrannu at y broses o ddarllen yn weithredol ac, felly, eich helpu i ganolbwyntio ar y pwnc rydych yn ei astudio. Os ydych yn ddetholus o ran y technegau a ddefnyddiwch ar gyfer gwneud nodiadau gallwch eu teilwra at ddibenion penodol - er enghraifft, i gasglu ynghyd ddeunydd o’r cwrs yn gyffredinol a fydd yn ddefnyddiol pan ddaw yn adeg adolygu ar gyfer arholiad neu waith ar aseiniad.