3 Bydd y sgiliau hyn yn eich gwella
Mae’n cymryd amser i bawb ddod o hyd i’r ffordd orau o ddarllen, deall a gwneud nodiadau yn y brifysgol. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn teimlo eich bod yn gwneud hyn yn effeithlon ar y dechrau. Rhowch amser i’ch hun ymgyfarwyddo â ffyrdd gwahanol o wneud nodiadau a mynd i’r afael â deunyddiau anodd y cwrs.
Yn bwysicaf oll, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Os nad ydych yn deall rhywbeth, gall eich tiwtor neu gynghorydd astudio eich rhoi ar ben ffordd. Efallai mai’r cyfan sydd ei angen arnoch yw ychydig o eglurhad ar frawddeg neu baragraff penodol - gall cydnabod pryd mae angen help arnoch a gwybod sut i ofyn amdano arbed llawer iawn o amser a gofid i chi ac mae’n sgil dda i’w meithrin ynddi ei hun.
Cofiwch gymryd sgiliau gwneud nodiadau a darllen yn effeithiol o ddifrif. Fe welwch fod amser a dreulir ar ddatblygu eich sgiliau nawr yn gwella eich gallu i ymdopi â gofynion astudio yn y dyfodol. Mae’r sgiliau sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr effeithlon ac effeithiol yn hynod ddefnyddiol mewn meysydd eraill o’ch bywyd hefyd, er enghraifft yn y gweithle. Datblygwch y sgiliau hynny nawr ac ni fyddwch byth yn difaru.