Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Darllen a gwrando

Mae darllen a gwrando ar ddeunydd academaidd yn wahanol iawn i ddarllen a gwrando er mwyn pleser. Mae’n gofyn i chi feddwl o ddifrif am y deunydd. Ar gyfer rhai pynciau, efallai y bydd angen i chi ddadansoddi a beirniadu rhywbeth, yn hytrach na’i dderbyn fel ‘y gwirionedd’ yn unig.

Efallai y bydd rhywfaint o’r hyn y byddwch yn ei ddarllen ac yn gwrando arno yn eiriog iawn ac yn ymdrin â chysyniadau neu ddamcaniaethau cymhleth. Efallai y gwelwch hefyd fod llawer iawn o ddeunydd a bydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â hynny.

‘Roedd llewyrch y dudalen wen yn straen go iawn. Roedd defnyddio darn o blastig tryloyw lliw yn helpu fy llygaid.’

Ceisiwch fabwysiadu ymagwedd hyblyg tuag at eich strategaethau darllen a byddwch yn ymwybodol o’ch diben wrth i chi astudio. Bydd angen i chi dreulio mwy o amser ar rai deunyddiau darllen a gwrando nag eraill.

Gall adegau godi pan fydd yn rhaid i chi gydnabod na allwch ymdrin â phopeth. Os digwydd hyn, peidiwch â mynd i banig! Ceisiwch ddod i benderfyniad ar yr hyn y byddwch yn ei ddarllen ac yn gwrando arno a faint o amser y byddwch yn ei dreulio arno. Bydd siarad â’ch tiwtor, eich cynghorydd astudio neu ganolfan ranbarthol y Brifysgol Agored yn eich helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer ymdopi â’r gwaith y mae’n rhaid i chi ei wneud.

Ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gael cyngor defnyddiol ar strategaethau a thechnegau darllen.