Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3.1 Ffeilio nodiadau papur

Os ydych yn ysgrifennu eich nodiadau â llaw, dewch o hyd i ffordd o gadw trefn ar eich papurau. Mae rhai myfyrwyr yn hoffi defnyddio ffeil ‘lever-arch’, rhwymydd modrwyog neu ffeil gonsertina. Casglwch ynghyd bethau defnyddiol fel labeli gludiog a ffolderi plastig.

  • Os defnyddiwch ffeil ‘lever-arch’ gallwch ddefnyddio dalennau rhannu i ddosbarthu eich nodiadau. Ceisiwch eu labelu a rhestrwch y penawdau mewn mynegai yn y blaen.
  • Os defnyddiwch ffeil gonsertina defnyddiwch labeli gludiog i gategoreiddio pob rhan.
  • Gall greu codau lliw drwy ddefnyddio aroleuwyr neu labeli gludiog eich helpu i ddod o hyd i bethau yn gyflym. Er enghraifft, gallech ddefnyddio gwyrdd ar gyfer deunydd ar ddamcaniaethau, melyn ar gyfer astudiaethau achos a choch ar gyfer enwau awduron allweddol yn eich maes.