Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4.10 Rhannu eich nodiadau

Efallai y byddai o fudd i chi ddod o hyd i grŵp o fyfyrwyr o gyffelyb anian y gallech rannu nodiadau â hwy. Gall edrych ar nodiadau pobl eraill helpu i egluro pethau nad ydych o bosibl wedi eu deall.

Mae rhai gwefannau yn caniatáu i chi gadw eich nodiadau ar-lein. Yn aml mae gan y gwefannau hyn y cyfleuster i wneud eich nodiadau a gaiff eu storio yn hysbys i bawb (y rhagosodiad yw hyn weithiau), neu gallant eu rhyddhau i unigolion dethol. Gallai manteision eraill y gwefannau hyn gynnwys y gallu i gysylltu â gwyddoniaduron a geirfaoedd eraill ar-lein (megis Wikipedia), trefnu eich nodiadau yn hawdd, gosod nodyn atgoffa i chi’ch hun a fformadu eich nodiadau fel eu bod yn haws eu darllen.

Ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i weld detholiad o’r gwefannau hyn.

Un o fanteision defnyddio’r gwefannau hyn i wneud a chadw eich nodiadau yw nad oes yn rhaid i chi boeni ynghylch eu colli. Hyd yn oed os bydd eich cyfrifiadur yn methu neu os byddwch yn colli eich cofbin, caiff y nodiadau ar y wefan eu cadw’n ddiogel.