Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o'ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu'n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Yn yr uned hon byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, byddwch:

  • wedi datblygu eich sgiliau darllen a gwrando a bydd gennych ddealltwriaeth o wrando'n astud a darllen yn feirniadol
  • wedi dysgu technegau er mwyn darllen yn gyflymach
  • yn deall sut i werthuso deunydd ar-lein
  • yn deall pwysigrwydd gwneud nodiadau da
  • wedi dysgu sut i wneud nodiadau a'u rhoi mewn trefn
  • yn gwybod sut i wneud nodiadau o ddeunydd sain
  • yn gwybod sut i wneud nodiadau ar fformiwlâu a datrys problemau
  • wedi dysgu dulliau er mwyn rhannu eich nodiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2012

Wedi'i ddiweddaru: 04/01/2011

Hepgor Graddau y Cwrs