Darllen a wneud nodiadau (Reading and taking notes)
Introduction
Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o’ch astudiaeth gyda’r Brifysgol Agored yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu’n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl.
Mae llawer o fyfyrwyr yn dweud bod natur yr hyn y maent yn ei ddarllen neu’r hyn y maent yn gwrando arno yn pennu’r math o nodiadau y maent yn eu gwneud. Er enghraifft, os ydych yn ceisio amlinellu cydberthnasau cymhleth, efallai mai dull gweledol o wneud nodiadau, megis map meddwl neu ddiagram systemau, yw’r fforddorau o wneud hynny. [Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch o gwbl.]
Ar yr un pryd, efallai y gwelwch fod y modd rydych yn ymdrin â deunyddiau eich cwrs (boed yn llyfrau neu’n ddeunydd clyweledol) yn newid yn ôl yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni ar yr adeg honno yn eich cwrs. Er enghraifft, os ydych am gasglu tystiolaeth o sawl ffynhonnell wahanol, efallai na fyddwch yn darllen yr holl ffynonellau hynny yn fanwl ond yn bwrw golwg yn fras drostynt am y rhannau perthnasol. Fodd bynnag, os oes angen i chi ddeall dadl gymhleth y mae un awdur penodol yn ei gwneud, efallai y bydd angen i chi ganolbwyntio’n astud ar y testun hwnnw.
Ceisiwch fod yn hyblyg yn eich techneg astudio a byddwch yn ymwybodol o’ch diben pryd bynnag y byddwch yn paratoi i ddarllen, gwylio neu wrando ar unrhyw beth ar gyfer eich cwrs. Fe ddewch ar draws technegau gwahanol yn y llyfryn hwn. Rhowch gynnig ar rai ohonynt. Ni fydd pob un ohonynt at eich dant ond efallai y bydd ambell un yn ddefnyddiol i chi yn eich astudiaethau.