Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4.8 Gwneud nodiadau o ddeunydd llafar

Mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn golygu gwylio a gwrando ar ddeunydd cwrs. Efallai y bydd disgwyl i chi wrando ar gryno ddisgiau sain, gwylio cyfweliadau a darlithoedd ar ffilm a chael sesiynau wyneb yn wyneb â thiwtor.

Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn bydd angen i chi ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdrin â llif parhaus o wybodaeth gan y siaradwr: i nodi’r rhannau pwysicaf o’r llif wrth iddo ddigwydd ac ysgrifennu nodiadau yn gyflym tra’n parhau i wrando ar y ffaith bwysig nesaf.

Er y gallwch stopio ac ailchwarae deunyddiau wedi eu recordio, ceisiwch beidio â gwneud hyn ormod neu fe fydd yn cymryd llawer o amser i chi wneud nodiadau. Peidiwch â gwneud trawsgrifiad llawn o’r hyn rydych yn gwrando arno - byddwch yn ddisgybledig a gwnewch nodiadau byr. Os ydych am nodi dyfyniad, cofiwch ddefnyddio dyfynodau a nodwch o ble y daeth y dyfyniad.

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddod yn fwy effeithlon o ran gwrando ar ddeunyddiau llafar a gwneud nodiadau arnynt.

  • Nodwch y prif bwyntiau am gefndir y pwnc cyn i chi wrando
  • Defnyddiwch dalfyriadau yn eich nodiadau
  • Gadewch ofod gwyn yn eich pad nodiadau ar gyfer nodiadau ychwanegol yn nes ymlaen

Casglwch rywfaint o wybodaeth cyn i chi ddechrau gwrando. Os bydd deunyddiau eich cwrs yn cynnwys nodiadau i gyd-fynd â’r rhaglen, darllenwch y nodiadau hynny yn gyntaf, er mwyn cael cefndir y cyfweliad, y ddarlith neu’r rhaglen. Os ydych yn mynd i diwtorial, efallai y bydd eich tiwtor am i chi ddarllen rhai unedau o’ch cwrs cyn i’r tiwtorial ddechrau. Mae’r gwaith paratoi hwn yn eich helpu i ganolbwyntio ar wrando ac yn eich helpu i ragweld yr hyn a allai godi.

Cofiwch gofnodi’r dyddiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall ar frig eich nodiadau ac os bydd angen i chi wirio rhywbeth rydych wedi ei golli o bosibl yn y ddarlith, gofynnwch i’r tiwtor neu gyd-fyfyriwr ar ôl y tiwtorial.

Gall defnyddio talfyriadau wrth ysgrifennu eich helpu i ymdopi â pha mor gyflym y bydd angen i chi wneud nodiadau tra’n gwrando ar rywun yn siarad. Ceir talfyriadau sefydledig ond gallwch lunio eich rhai chi eich hun hefyd. Os ydych eisoes yn gallu gwneud nodiadau llaw-fer, rydych yn ffodus iawn! Os byddwch yn gwneud nodiadau ar frys efallai y byddwch am ddychwelyd at rannau penodol o’ch nodiadau yn nes ymlaen i ychwanegu atynt. Ceisiwch adael digon o le ar y dudalen o amgylch eich paragraffau neu bwyntiau bwled wrth i chi wneud nodiadau.