2.2 Eich strategaeth ar gyfer gwneud nodiadau
Nid oes un ffordd gywir o wneud nodiadau. Mae sefyllfaoedd gwahanol yn galw am ddulliau gwahanol felly cofiwch bob amser beth yw diben eich darllen a’ch gwrando. Weithiau efallai y bydd angen i chi wneud nodiadau cynhwysfawr o destun llawn. Ar adegau eraill efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen mwy nag ychydig o nodiadau prin a dyfyniad penodol. Weithiau efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen i chi wneud mwy nag ysgrifennu rhai nodiadau ymylol yn y llyfr cwrs ei hun (techneg ddefnyddiol iawn).
‘Dim ond pan oedd yn rhaid i mi fynd ati i ateb cwestiwn y traethawd y sylweddolais i nad oeddwn i wedi cael digon o’m darllen, er gwaetha fy holl nodiadau.’
Felly meddyliwch am y deunydd wrth ddewis pa fath o nodiadau i’w gwneud. Er enghraifft, efallai mai techneg weledol, fel map meddwl neu fap systemau, fyddai orau i’ch helpu i gynrychioli cydberthnasau cymhleth, ond nodiadau wedi’u tablu fyddai orau i’ch helpu i wneud cymhariaeth uniongyrchol o ddamcaniaethau gwahanol. Ond yn bwysicaf oll, dylech bob amser feddwl am eich diben.
- Ar gyfer beth y mae’r nodiadau? A fwriedir iddynt grynhoi ystod eang o ddeunyddiau cwrs allweddol? Gellid eu defnyddio i’ch paratoi ar gyfer aseiniad, neu efallai y byddech yn ailwampio hen nodiadau, hirach, i greu nodiadau mwy cryno ar gyfer arholiad.
- O ba fath o ddeunydd rydych yn gwneud nodiadau? A yw’n bennod sy’n cynnwys trosolwg sy’n galw am nodiadau manwl, neu’n bennod nad oes angen ond darnau bach o wybodaeth arnoch ohoni? Efallai y byddai angen i chi sganio’r erthygl neu’r bennod cyn penderfynu gwneud unrhyw nodiadau.