Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Sut mae'r byd hybrid yn gwneud i chi, fel arweinydd, deimlo? Ydych chi'n teimlo nad oes gennych chi reolaeth? Ydych chi'n ymddiried yn eich tîm a'ch gweithlu i gwblhau'r swydd, neu ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus o'u cael nhw o fewn golwg mewn swyddfa? Mae gweithio hybrid yma i aros, a nawr yn fwy nag erioed, bydd angen i chi ddeall sut mae eich cyflogeion yn teimlo am hyn – a sut rydych chi'n teimlo hefyd. 

Os cefnogir gweithio hybrid gan sefydliad ar bob lefel gall greu newid gwirioneddol a chadarnhaol i'r gweithlu. Ond, mae angen arweinwyr i fabwysiadu cynhwysiant a chreu cysylltiadau â'u gweithlu hybrid. Mae'n gofyn am ymddiriedaeth. Mae'n gofyn am empathi. Mae angen diogelwch seicolegol arno. Mae angen atebolrwydd clir arno. Mae angen arweinwyr i'w gysylltu â'r gweithlu a'i ddyneiddio. 

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi adfyfyrio ar bwy ydych chi fel arweinydd hybrid a sut rydych chi eisiau datblygu. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i ddangos empathi â'ch gweithlu a sut i addasu eich sgiliau cyfathrebu wrth weithio yn y swyddfa ac wrth weithio o bell. Bydd yn eich annog i ddechrau meddwl sut y gallwch ysgogi eich gweithle i ffynnu yn y byd hybrid newydd hwn a beth y gallwch chi ei wneud i'w helpu i ddatblygu a theimlo'n ddiogel.



Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • archwilio diffiniadau o weithio hybrid a nodi sut i greu dealltwriaeth a rennir o'r rhain yn y gwaith
  • dadansoddi sut mae gweithio hybrid yn effeithio ar gynhyrchiant a disgrifio'r amgylchedd gweithio hybrid delfrydol
  • nodi ffyrdd y gall diwylliant hybrid ehangu a datblygu
  • dod yn hunanymwybodol fel arweinydd hybrid, gan gynnwys sut i fod yn fwy cydnerth ac yn wrandäwr gweithredol
  • egluro beth yw atebolrwydd a gwerthfawrogi sut i greu atebolrwydd mewn byd hybrid
  • dadansoddi pwysigrwydd empathi fel arweinydd hybrid a'i wahaniaethu rhag cydymdeimlad.

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2022

Wedi'i ddiweddaru: 26/09/2022

Hepgor Graddau y Cwrs