1 Meddwl am eich cyd-destun sefydliadol ar hyn o bryd
Mae’r amgylchedd allanol yn dal yn ansicr, wrth i sefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol barhau i amrywio, a’r costau byw cynyddol. Mae’r ffordd yr ydych yn cynllunio ac arwain eich sefydliad ar gyfer parhad y busnes a thwf yn allweddol i ymdrin ag anghenion, nodau ac amcanion tymor byr, canolig a hir.
Dyluniwyd y fframwaith a ddarlunnir isod ar gyfer y casgliad hwn i amlygu meysydd allweddol y mae angen i chi eu hystyried wrth feddwl am ddatblygiad sefydliadol. Wrth i lawer o sefydliadau a sefydliadau addysg uwch (SAU) barhau i esblygu eu harfer hybrid, mae’r ffordd yr ydych yn gweithio a chynllunio ar gyfer y tymor hir yn hanfodol. Bydd angen i chi gydbwyso anghenion eich rhanddeiliaid a’ch sefydliad gan dderbyn ac addasu i ffactorau allanol, er mwyn cyrraedd amcanion strategol yn llwyddiannus.
- Dylech chi a’ch ffyrdd o weithio ystyried y rhanddeiliaid allweddol yn eich amgylchedd a’u hanghenion yng nghyswllt datblygu sefydliadol.
- Mae arnoch angen deall gofynion sefydliadol, y cyd-destun, cysylltiadau, a’r gofynion ar gyfer meysydd allweddol a sut y mae’r rhain yn gysylltiedig ag anghenion eich rhanddeiliaid.
- Mae arnoch angen ystyried eich ffordd o weithio er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Gweithgaredd 1 Meddwl am eich sefydliad ar hyn o bryd
Meddyliwch am y fframwaith uchod yng nghyswllt eich sefydliad. A ydych yn teimlo bod ganddo ddull clir o ran ffyrdd newydd o weithio? Ychwanegwch eich pleidlais at y pôl isod.
Yna rhowch amser i archwilio dull Prifysgol Bangor o ymdrin â ffyrdd o weithio:
Gweithio Deinamig | Adnoddau Dynol | Prifysgol Bangor [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Yn y blwch testun rhydd isod rhestrwch y meysydd yr ydych chi’n teimlo bod angen i chi ganolbwyntio arnynt a gwnewch nodiadau ar ffyrdd o weithio Bangor sydd o ddiddordeb i chi.