9 Wythnos fyrrach: meddwl am gynllunio tymor hir
Dyluniwyd y cwrs hwn er mwyn i chi ystyried eich anghenion sefydliadol i gynorthwyo i gynllunio ar gyfer newid. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith tymor hir eu penderfyniadau. Er mwyn cynorthwyo gyda chynllunio tymor hir (a phob cynllunio) maent wedi creu pecyn cymorth sy’n defnyddio’r Fframwaith Tri Gorwel [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Dr Louisa Petchey – Uwch Arbenigwr Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru – a fu’n rhan o greu’r pecyn cymorth, yn esbonio sut y gall ei ddefnyddio helpu i gynllunio tymor hir a meddwl am y dyfodol.
Transcript
Wrth i ni barhau i esblygu ein dulliau o weithio, ac i’n disgwyliadau o ran cydbwysedd bywyd a gwaith newid, fe fu galwadau i ystyried wythnos waith fyrrach.
Darllenwch yr erthygl a gwyliwch y fideo isod o Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, er mwyn ystyried goblygiadau'r wythnos waith fyrrach a pharhau i weithio o bell..
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am dreial Wythnos Waith Fyrrach
Transcript
Gweithgaredd 29: Treialu wythnos waith fyrrach
Wrth ddefnyddio’r cwrs a’ch dealltwriaeth o’ch sefydliad ysgrifennwch grynodeb byr o’r hyn y byddai angen i chi ei ystyried i dreialu wythnos waith fyrrach, ymrwymiad i barhau i weithio'n hybrid neu o bell yn unig, a’r effaith ar eich gweithwyr a’ch myfyrwyr.
Ar ôl i chi wneud hyn, efallai y byddwch am ddefnyddio Pecyn Cymorth Tri Gorwel i weithio gydag eraill i ddatblygu eich syniadau am wythnos waith fyrrach, neu broblem gynllunio arall sydd gennych, y tu allan i'r amser a neilltuwyd ar gyfer astudio'r cwrs hwn.
Gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o gynllunio ar gyfer y dyfodol ymhellach trwy astudio’r cwrs Gweithio hybrid: cynllunio sy’n esbonio’r Fframwaith Tri Gorwel a fframweithiau eraill ar gyfer cynllunio’n fwy manwl. Gallwch ddod o hyd i'r cwrs yma: Cefnogi gweithio hybrid yng Nghymru
Trafodaeth
Gan gynllunio ar gyfer gweithio hybrid hirdymor ac ystyried wythnosau gwaith byrrach, efallai eich bod wedi meddwl am rywfaint o’r effaith sefydliadol y gallai hyn ei chael, lles eich gweithwyr a’r pethau ymarferol.
Yn y fideo isod mae Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil o Chwarae Tegyn rhoi mewnwelediadau i sefydliadau eu hystyried.