Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.7 Cynhwysiant gwledig

Yn 2021 roedd y boblogaeth wledig yn y Deyrnas Unedig tua 16%. Yn y ddelwedd isod, gallwch weld bod bron 82% o Gymru yn cael ei alw’n wledig, gyda thua 32% o’r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 18: Teipoleg ardaloedd yn y Gymru wledig yn defnyddio dosbarthiadau ONS o fath o anheddiad a lleoliad

Mae gweithio hybrid o bosibl yn cynnig cyfleoedd i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig i gael swyddi a oedd unwaith ar gael i’r rhai oedd yn byw mewn trefi mawr neu ddinasoedd yn unig.Wrth i sefydliadau ddefnyddio dulliau gwaith mwy hyblyg, mae llawer o ffactorau sydd angen eu hystyried i sicrhau profiad cyfartal a theg, gan gynnwys ystyried cost a dichonolrwydd cymudo cynaliadwy. Gall y mynediad at gludiant cyhoeddus fod yn gyfyngedig a gall rhai pobl fod â statws economaidd isel.

Mae’r seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig yn aml yn llai datblygedig, felly gall hynny effeithio ar y gallu i weithio’n effeithiol o bell. Mae cymunedau gwledig yn dod o hyd i ffyrdd blaengar o ymdrin â hyn fel Prosiect Cynhwysiant Digidol Llanofer, [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddefnyddio neuaddau pentref i gynnig mynediad at well darpariaeth band eang, cynyddu ymwybyddiaeth ddigidol a sgiliau digidol yn y gymuned, ochr yn ochr â defnyddio canolfannau cydweithio a archwiliwyd yn gynharach yn y cwrs.

Yn y fideo isod mae’r Athro Michael Woods – Cyd-gyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – Prifysgol Aberystwyth, sy’n un o gyd-awduron yr adroddiad tystiolaeth Y Weledigaeth Wledig i Gymru, yn esbonio’r ystyriaethau o ran cynhwysiant gwledig.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep119_rural_inclusion_michael_woods_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 15: Cymdogaethau 15 munud

Timing: 15 munud

Meddyliwyd am y ‘cysyniad cymdogaeth 15 munud’ gyntaf gan Carlos Moreno yn 2016. Mae ei ddamcaniaeth yn canolbwyntio ar ardaloedd trefol, gyda’r nod o annog adfywio, gwella cydlyniad cymdeithasol, cymunedau ffyniannus, iechyd a llesiant, gan leihau’r defnydd o gerbydau modur a hyrwyddo byw yn gynaliadwy.

Mae’r dull hwn ar sail lle yn ei hanfod yn hyrwyddo’r syniad bod yr holl breswylwyr o bob oed a gallu yn medru cael mynediad at eu hanghenion dyddiol (tai, gwaith, bwyd, iechyd, addysg a diwylliant a hamdden) o fewn pellter o 15 munud ar droed neu ar feic.

Ystyriwch y fideo uchod, sut gallai’r cysyniad o gymdogaeth 15 munud alluogi cynhwysiant gwledig tymor hir ar gyfer gweithio hybrid a ffyrdd cynaliadwy o weithio? Gwnewch nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).