7 Trawsnewidiad digidol
Cyn y pandemig, roedd trawsnewidiad digidol yn bwysig i sicrhau bod gan sefydliadau ac unigolion y seilwaith, y wybodaeth, y profiad a’r gallu i ffynnu mewn byd digidol.
Cyflymodd y pandemig yr angen i fabwysiadu technoleg ddigidol, defnyddio data’n fwy effeithiol i wneud penderfyniadau, a chanolbwyntio ar gynhwysiant digidol, o ran gallu sefydliadau ac unigolion, ond hefyd sut i gefnogi’r rhai sydd wedi eu hallgau yn ddigidol.
I sefydliadau oedd yn gorfod addasu a chefnogi gweithio o bell ac i SAU sy’n cyflawni dysgu o bell, mae rhan technoleg mewn sefydliad wedi dod yn bwyslais allweddol. Mae’r tabl isod, o adroddiad gan McKinsey, yn dangos cyflymder y newid oherwydd y pandemig.
Wrth i sefydliadau fabwysiadu dull hybrid o weithio, bydd y ddibyniaeth ar dechnoleg yn parhau, ac mae deall sut y mae’n esblygu’n bwysig.
Yn y fideo mae’r cyfranwyr yn esbonio beth sydd ar sefydliadau angen ei ystyried ar gyfer trawsnewidiad digidol a’r gallu digidol sy’n ofynnol ar gyfer y dyfodol:
Transcript
Mae’r ffigwr isod yn rhoi crynodeb defnyddiol o rai o’r newidiadau a ddigwyddodd yn ystod y pandemig COVID-19 sy’n debygol o barhau.
Mae angen i sefydliadau ystyried nid yn unig eu hamgylchedd mewnol ond hefyd eu cadwyn gyflenwi, ac yn allweddol, diogelwch ar-lein ac ymddygiad. Wrth i sefydliadau roi mwy o ymddiriedaeth i’w gweithwyr, mae’n holl bwysig iddynt gynyddu eu dealltwriaeth o weithio’n ddiogel ar-lein a’u gallu i wneud hynny a defnyddio technoleg a systemau (fel rhannu ffeiliau a’u cadw) yn ddiogel a chywir.
Mae arnynt hefyd angen ymchwilio i’r seilwaith a’r offer gofynnol, a chynllunio ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod pwyslais ar gynaliadwyedd digidol, y gallu digidol sy’n ofynnol a strategaethau’r llywodraeth.
Mae rhai o’r themâu allweddol y mae sefydliadau’n eu hystyried ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:
- awtomeiddio prosesau busnes – dysgu peiriannau a deallusrwydd artiffisial (AI)
- cyfrifiadura ar y cwmwl
- defnyddio data i yrru llunio penderfyniadau
- denu talent gyda’r gallu digidol cywir
- dull dim ymddiriedaeth o ymdrin â diogelwch
- sut y bydd y meta-fydysawd yn datblygu
- cynaliadwyedd – cyrraedd sero net, ac olion traed carbon.