Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Cyflwyniad

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae pob sector, gan gynnwys y sector addysg uwch, wedi gorfod ymateb i newid nas gwelwyd ei debyg ac ansicrwydd. Gwnaeth y pandemig COVID-19 byd-eang i ni i gyd addasu’n barhaus, wrth i gyfyngiadau a chanllawiau newid rhwng 2019 a 2022. Mae llawer o sefydliadau addysg uwch (SAU) yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o ffyrdd ymatebol o weithio yn ystod y pandemig ac yn esblygu eu harferion gwaith a pholisïau i ystyried ffyrdd o weithio mewn amgylchedd hybrid.

Mae’r cwrs am ddim hwn, sy’n rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , wedi ei ddylunio i roi’r cyfle i chi ystyried yr amgylchedd a’r cyd-destun yr ydych chi, eich tîm, a’ch sefydliad yn gweithredu ynddynt, ac i’ch annog i ystyried a yw eich strategaethau, modelau, gwerthoedd a diwylliant presennol yn addas i’r diben. Byddwn yn eich cyfeirio at y sgiliau a’r gallu digidol sy’n ofynnol i gyflawni eich amcanion yn y byd gwaith hybrid ôl-bandemig a byddwn yn defnyddio dull holistaidd o ymdrin â llesiant a chynaliadwyedd, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Trwy gydol y cwrs mae dogfennau, adroddiadau ac erthyglau. Er eich bod yn cael eich annog i ddarllen y rhain, bydd yr amseriad ar gyfer gweithgareddau yn rhoi syniad i chi a oes disgwyl i chi eu darllen yn fanwl. Mae rhai yn hir ac efallai y byddwch yn dymuno eu cadw i gyfeirio atynt yn y dyfodol a’u darllen yn llawn rywbryd eto.