Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Strategaeth ddigidol i Gymru

Mae Strategaeth Ddigidol i Gymru yn ceisio ymdrin â sut i ddefnyddio’r byd digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru.

‘Mae gan y digidol y potensial i roi cyfle inni wella’n profiad o’r byd: o gyfoethogi bywydau pobl, cryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus a gwaith y llywodraeth, yn ogystal â helpu busnesau i addasu i’r dyfodol.’

Gweledigaeth y strategaeth ddigidol yw gwella bywydau pawb trwy gydweithio, blaengaredd a gwell gwasanaethau cyhoeddus. Mae chwe chenhadaeth i gefnogi’r weledigaeth:

Tabl 5
Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol Cyflenwi a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr ac yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
Cenhadaeth 2: cynhwysiant digidol Rhoi yr ysgogiad, y mynediad y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu gyda byd sy’n fwyfwy digidol, yn seiliedig ar eu hanghenion.
Cenhadaeth 3: sgiliau digidol Creu gweithle sydd â’r sgiliau digidol, y gallu a’r hyder i ragori yn y gweithle ac ym mywyd pob dydd.
Cenhadaeth 4: economi ddigidol Sbarduno ffyniant economaidd a cydnerthedd drwy gynnwys a defnyddio arloesedd digidol.
Cenhadaeth 5: cysylltedd digidol Caiff gwasanaethau eu cefnogi gan seilwaith cyflym a dibynadwy.
Cenhadaeth 6: data a chydweithredu Caiff gwasanaethau eu gwella drwy gydweithio, a chaiff data a gwybodaeth eu defnyddio a’u rhannu.

Mae’r nod llesiant Cymru Lewyrchus, o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn canolbwyntio’n benodol ar y sgiliau ar gyfer y dyfodol: ‘Annog sefydliadau i ddatblygu poblogaeth fedrus, sy’n barod am newid technolegol yn y dyfodol’. Mae sgiliau digidol ar gyfer y dyfodol yn hanfodol i sicrhau bod sefydliadau nid yn unig yn ffynnu, ond bod cymunedau a chenhedloedd yn diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Gweithgaredd 18: Deall y strategaeth ddigidol i Gymru a Sgiliau at y dyfodol

Timing: 25 munud

Gwyliwch y fideo lle mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn esbonio’r sgiliau fydd yn ofynnol ar gyfer y dyfodol.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sept123_skills_for_the_future_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yna, rhowch amser i ddarllen:

Sylwch beth allai hyn ei olygu i’ch sefydliad ac i SAU yn fwy eang, nid yn unig o ran y sgiliau digidol sy’n ofynnol, ond hefyd beth allai ei olygu i drawsnewidiad digidol eich sefydliad.

Os nad ydych yng Nghymru, efallai y byddwch am chwilio am y strategaeth ddigidol yn y wlad lle’r ydych chi.