2 Gweithredu mewn amseroedd ansicr
Yn ystod y pandemig daeth gallu sefydliadau i reoli ansicrwydd yn allweddol. Bu’n rhaid i lawer wneud penderfyniadau a gweithredu newidiadau cymhleth, gan gynnwys trawsnewid digidol yn gyflym, i drosglwyddo’r rhan fwyaf o’r gweithlu i weithio o bell yn ystod cyfnodau clo.
Mae’r fideo isod yn rhoi cipolwg gan y cyfranwyr am eu profiad o addasu ffyrdd o weithio yn ystod y pandemig COVID-19.
Transcript
Mae effaith y pandemig ar iechyd meddwl, anghyfartaledd i rai grwpiau mewn cymdeithas, yr economi a’r seilwaith yn feysydd allweddol y mae angen i sefydliadau ganolbwyntio arnynt yn awr, ochr yn ochr â chynaliadwyedd a sut y gallant gyfrannu at dargedau sy’n gysylltiedig â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (UN SDGs) (UN, 2022) a chyrraedd sero net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
Cyn y pandemig COVID-19, roedd arferion y gweithlu yn esblygu wrth ymateb i dueddiadau sefydliadol yn niwedd yr ugeinfed ganrif.
Os gwnewch chi ymchwilio i ‘dueddiadau i sefydliadau’ ar-lein, fe welwch bwyslais cyson ar:
- gweithlu a disgwyliadau sy’n newid
- dilysrwydd, gwytnwch a busnes pwrpasol
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- sefydliadau mwy gwastad a hyblyg
- cynaliadwyedd, gan gynnwys newid hinsawdd, targedau sero net ac ansefydlogrwydd economaidd byd-eang
- trawsnewid digidol, y cyfeirir ato weithiau fel y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, a defnydd effeithiol o ddata (Baker, 2021; Marr, 2021; Kropp a McRae, 2022).
Gweithgaredd 2: Meddwl am brofiad eich SAU o ymdrin ag ansicrwydd
Yn ystod y pandemig bu’n rhaid i SAU oedd â darpariaeth ddysgu o bell gyfyngedig neu ddim o gwbl addasu eu modelau darparu yn gyflym, ochr yn ochr â sicrhau bod y rhai oedd yn gallu gweithio o gartref yn gwneud hynny, i sicrhau parhad yn y dysgu i’w myfyrwyr.
Ystyriwch sut y mae eich SAU a chithau fel unigolyn yn ymdrin ag ansicrwydd. Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch isod.
Trafodaeth
Bydd eich profiadau yn amrywio, gan ddibynnu ar sut yr ymatebodd eich sefydliad i COVID-19, ac ar eich amgylchiadau personol. Er bod pwyslais ar y negyddol yn aml, mae llawer o agweddau positif wedi ymddangos o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio.
Rhowch amser i ymchwilio i dueddiadau yn y sector addysg uwch ac ystyried sut y gall sefydliadau fod angen addasu at y dyfodol, a’r cyfleoedd a all ddod i’r amlwg.
Efallai y byddwch am archwilio’r adnoddau canlynol i’ch helpu wrth i chi feddwl. Mae’r dudalen Student Crowd yn rhoi darlun cryno o sut y gwnaeth prifysgolion y Deyrnas Unedig addasu eu dulliau addysgu wrth ymateb i gyfyngiadau COVID-19.
- Arweiniad i addysg uwch yng Nghymru
- Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol Cymru 2021: Crynodeb naratif
- University Responses to COVID-19 | StudentCrowd
Yna ystyriwch effaith gweithio hybrid i’r gymuned ehangach ar:
- yr economi a busnes
- trefi a chanol dinasoedd
- materion sy’n effeithio ar y gweithlu, a sgiliau
- iechyd (corfforol a meddyliol) a llesiant – gweler Gweithio o bell: Oblygiadau i Gymru (dolen isod)
- anghyfartaledd rhwng grwpiau gwahanol a rhannau gwahanol o Gymru (gan gynnwys yr ardaloedd hynny â chysylltedd gwael)
- yr amgylchedd
- y rhwydwaith trafnidiaeth a’r seilwaith.
Efallai y byddwch am agor yr adroddiad llawn:
Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru
Ar sail eich ymchwil a’n bod yn gweithredu gydag ansicrwydd, a ydych yn cytuno â’r dyfyniad canlynol?
‘Mae prifysgolion mewn sefyllfa dda i gydweithio â phartneriaid ledled Cymru er mwyn cynorthwyo ag adferiad ein gwlad o’r pandemig ac adeiladu dyfodol Cymru gyda’n gilydd.’
Ychwanegwch eich pleidlais at y pôl isod.